Llwybr Celf Ceredigion


29/6/16



Yn galw artistiaid ifanc yng Ngheredigion - Mae gennym galeri i lenwi ar gyfer Llwybr Celf Ceredigion!


Yr haf yma, fe fydd Canolfan Arad Goch yn rhan o Lwybr Celf Ceredigion, ac mae angen gwaith celf arnom i lenwi yr arddangosfa. Rydym yn edrych am bobl ifanc sydd naill ai gyda gwaith celf yn barod neu yn awyddus i greu darnau newydd o waith i’w ddangos yng Nghanolfan Arad Goch.


Gall y gwaith fod yn unrhyw gyfrwng - peintio, ffotograffiaeth, cerfluniau, tecstilau... Gall y gwaith fod unrhyw faint hefyd, ond mae’r gofod yn gyfyngedig, felly y cyntaf i’r felin...


Fe fydd y gwaith yn cael ei weld gan ymwelwyr i’r Ganolfan dros yr haf, ac yn rhan o lwybr celf, llawn artistiaid adnabyddus a phroffesiynol hefyd. Cyfle gwych i unrhyw un sydd gyda diddordeb ym myd celf!


Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Nia .(JavaScript must be enabled to view this email address) neu ffoniwch y Ganolfan ar 01970 617998.


Am fwy o wybodaeth am y llwybr, cliciwch ar y ddolen gyswllt yma;


http://ceredigionarttrail.org.uk/


Cysylltu


Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN

 

ffon 01970 617998
ffon 01970 611223
ffon post@aradgoch.org

 

Ymuno



 

Hefyd ar

Facebook

TwitterBlog

Flickr

llun or fan