Arad Goch yn Catalonia


8.4.15


Wythnos i heddiw bydd cast a chriw Ble Mae'r Dail yn Hedfan yn hedfan i Gatalonia yn Sbaen i berfformio yng Ngwyl La Mostra D'igualada, yr wyl theatr fwyaf o'i math i blant a phobl ifanc yng Nghatalonia.

Yn ystod yr wythnos bydd yr actorion Ffion Wyn Bowen a Mark Roberts yn perfformio 6 sioe Gymraeg a Chatalaneg i gynulleidfaoedd o blant ifanc a theuluoedd. Dyma'r ail dro i'r cast befformio'r gwaith yn Catalonia, yn dilyn ymweliad a Gwyl 'Fiet' yn Hydref 2014;

“Mae’n wych i gael y cyfle i ddychwelyd i Catalonia i berfformio’r gwaith i gynulleidfa newydd mewn gŵyl fawr fel ‘La Mostra’. Mae wedi bod yn dipyn o her i fi ddysgu a pherfformio mewn ieithoedd amrywiol, ac mae’n braf cael y cyfle i ail gydio yn y Catalaneg, iaith arall leiafrifol, ar gyfer y perfformiad hwn” Ffion Wyn Bowen

Am wybodaeth bellach ewch i www.lamostraigualada.cat


Cysylltu


Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN

 

ffon 01970 617998
ffon 01970 611223
ffon post@aradgoch.org

 

Ymuno



 

Hefyd ar

Facebook

TwitterBlog

Flickr

llun or fan