Rydyn i’n cydweithio gyda nifer o adrannau mewn prifysgolion a cholegau i gynnig lleoliadau profiad gwaith yng Nghanolfan Arad Goch ac i ymweld â’r adrannau i gynnal gweithdai theatr ymarferol am amrywiaeth o dechnegau a darlithoedd arbenigol am greu theatr i gynulleidfaoedd ifanc, gweinyddu’r celfyddydau a datblygu gyrfa.