Cynyrchiadau

Cerrig yn Slic

Oed: Cyfnod Sylfaen (2-7 oed)

Cynhyrchiad rhyngweithiol am ddau ffrind sy’n casglu cerrig ac yn eu defnyddio nhw i greu pob math o bethau! Siapau, rhifau, lluniau a llawer mwy. Ar ddiwedd y cynhyrchiad, mae’r cynulleidfa’n ymuno â’r cymeriadau a’u helpu nhw i greu pethau. Mae’r perfformiad yn helpu plant i ddod i ddeall eu hemosiynau ac empathi tuag at eraill, yn ogystal ag annog plant i chwarae’n ddychmygol gyda gwrthrychau naturiol. Ar gael yn y Gymraeg neu’r Saesneg, neu, am berfformiadau rhyngwladol gallwn addasu’r sgript i’r iaith lleol.

Ar daith: Nid oes taith Cerrig yn Slic yn fuan, ond os oes ‘da chi diddordeb i weld y cynhyrchiad yma, cysylltwch â ni ar post@aradgoch.org.

Hudo

Oed: 13+

Cynhyrchiad theatr fforwm am gamfanteisio rhywiol ar bobl ifanc. Pump golygfa o enghreifftiau gwahanol o fathau o gamfanteisio, a rhyngddyn nhw trafodaeth wedi ei arwain gan hwylusydd y cynhyrchiad. Mae’r trafodaeth yn ffocysu yn llwyr ar brofiadau y cymeriadau, ac felly yn rhoi cyfle i’r gwylwyr cynnig cymorth a syniadau tra’n thrafod y pwnc sensitif o bellter diogel. Crëwyd Hudo mewn cydweithrediad â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddi Dyfed-Powys, ac ennill dwy wobr Arts & Business Cymru 2019. Ar gael yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Ar daith: Medi – Rhagfyr 2019, cysylltwch â anne@aradgoch.org am ragor o wybodaeth ac i wneud ymholiad.