Dysgu Creadigol

Rydyn ni’n cydweithio gydag athrawon mewn ysgolion unigol i gynllunio  a darparu prosiectau dysgu creadigol dwys ac arbenig; gall y prosiectau cyfranogol hyn ymwneud  ag unrhyw elfen o’r cwricwlwm, o fathemateg i hanes leol, gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau creadigol – theatr, dawns, ysgrifennu, celf, cerddoriaeth, ffotograffiaeth, fideo a thechnoleg digidol a mwy. Rydyn ni wrth ein boddau yn cydweithio gydag athrawon a phlant i greu gwaith newydd; cysylltwch â ni i drafod syniadau.

Enghreifftiau o brosiectau dysgu creadigol

Elfennau

Prosiect gydag ysgolion Glantwymyn, Llanbrynmair a Charno. Dros gyfnod o dri mis, fe wnaeth disgyblion yr ysgolion gydweithio ar brosiect cyffrous yn ymwneud â’r elfennau – dwr, awyr, gwres a’r tir. O wythnos i wythnos roedd y plant yn cael cyfleoedd i berfformio, arlunio, creu a gweithio tuag at y nod o lansio llyfr, gydag arweiniad a chymorth yr artist Elin Vaughan Crowley, y ddawnswraig Anna Ap Robert, y bardd Anni Llŷn a staff Cwmni Theatr Arad Goch.

300 / 25

Prosiect gydag Ysgol Griffith Jones. Prif thema’r prosiect hwn oedd ‘dathlu’ gan ei fod yn 300 mlynedd ers i Griffith Jones, Llanddowror sefydlu ei ysgolion teithiol a 25 mlynedd ers agor Ysgol Griffith Jones. Crëwyd cyflwyniad aml-gyfrwng gyda chymorth ac arbenigedd y bardd Aneirin Karadog, yr artistiaid Lleucu Meinir a Meinir Mathias, y canwr a’r actor Gareth Elis a staff Cwmni Theatr Arad Goch.

Cerddi Llangynnwr

Prosiect gydag Ysgol Llangynnwr. Buodd y bardd Mererid Hopwood, yr artistiaid Lleucu Meinir a Meinir Mathias a’r cyfarwyddwr ac actor Ioan Hefin yn cydweithio â staff a 155 o ddisgyblion cyfnod allweddol 2 i lunio casgliad o 15 o gerddi newydd mewn arddulliau amrywiol a gan ddefnyddio 3 iaith – Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg. Cyfunwyd y cyfan mewn cyflwyniad aml-gyfrwng a berfformiwyd yn yr ysgol.

Bu’n bleser cyd-weithio gyda phob un o’r arbenigwyr a fu’n rhan o’r prosiect. Roedd yn gyfle gwych i ni fel staff i weld dulliau newydd o weithio gyda’r disgyblion mewn gymaint o feysydd creadigol gwahanol. Bu’n ddatblygiad proffesiynol arbennig a chymaint mwy effeithiol gan ein bod yn gweithio ochr yn ochr ar lawr y dosbarth gyda’r arbenigwyr yn hytrach na’r dull traddodiadol o fynychu cwrs

Griffith JonesPrifathro Ysgol