Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn cynhyrchu theatr gyffrous ac arloesol sydd yn ysbrydoli, ysgogi ac addysgu plant a phobl ifanc. Rydyn ni’n ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf ym myd addysg yng Nghymru ac rydyn ni’n trafod ein gwaith a’i gynnwys yn reolaidd gydag athrawon a swyddogion addysg er mwyn sicrhau ei fod o ddiddordeb i’r disgyblion ac o ddefnydd i’r athrawon. Mae ein gwaith theatr-mewn-addysg yn ymwneud ag ystod eang o bynciau gan gynnwys hanes, materion cyfoes, lles plant ac ABICh; yn aml iawn rydyn ni’n cynnwys plant a phobl ifanc yn ein prosesau creadigol. Rydyn ni’n darparu gwaith penodol ac arbenigol i’r sector uwchradd, cynradd a’r Cyfnod Sylfaen.
Mae ein gwaith yn teithio’n reolaidd i ysgolion gorllewin a de Cymru, ac yn aml tu hwnt i hynny. Ffoniwch ni os ydych chi eisiau trefni ymweliad gan gynhyrchiad Arad Goch, neu eisiau trafod y posibilrwydd o gydweithio ar brosiect creadigol – 01970617998.