Cynhyrchiad newydd o un o glasuron Arad Goch, mae BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN yn ddrama ryngweithiol i blant bach 3-9 oed a’u teuluoedd (gall plant iau ddod gyda’r teuluoedd hefyd).
Gan ddechrau y tu allan, neu yng nghyntedd y theatr/neuadd, mae’r gynulleidfa yn symud i ofod caeëdig, tawel a diogel ble maen nhw’n helpu’r cymeriadau i greu cartref newydd gyda deunyddiau naturiol – dail, brigau a pren.
Mae’n ddrama hwyliog a cherddorol, weithiau’n ddoniol a dro arall yn ymdrin ag emosiynau plant, gyda themâu am gyfeillgarwch, cydweithio a gofal – gan annog y blant i fynd ati i fod yn greadigol yn eu ffordd eu hunain.
Oed
3-9 ned
Ar Daith
Ionawr – Ebrill 2023
Cyfarwyddwyr
Ffion Wyn Bowen