Bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn neidio mewn i 2024, sef blwyddyn sy’n argoeli i fod yn un prysur a chyffrous iawn i’r cwmni, gyda chynhyrchiad newydd sbon i blant, ‘Cymrix’.
‘Mae tyfu fyny’n ddigon o her: darganfod pwy wyt ti, pwy allet ti fod yn ogystal â chadw fyny â gwaith cartref… Ond pan mae gofyn cyflwyno hynna o flaen yr ysgol gyfan, ble ar y ddaear mae dechrau??’
Drama Gymraeg newydd gan y dramodydd Alun Saunders yw ‘Cymrix’, fydd yn ymdrin â hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg trwy lygaid tri person ifanc. Mae Alun yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau Cymru fel perfformiwr, ac wedi cael cryn sylw yn ddiweddar am ei waith ysgrifennu gyda lansiad Curiad Coll, ei addasiad Gymraeg o’r nofel boblogaidd Heartstopper.
Yng ngeiriau Alun, “Fel rhywun sydd wedi bod yn ymwybodol o waith ffantastig Arad Goch ers blynyddoedd, dwi mor gyffrous i allu gweithio gyda'r cwmni am y tro cyntaf ar Cymrix. Dwi’n mawr obeithio fydd pawb sy’n gweld y cynhyrchiad yn mwynhau (pwysig dros ben!) ond hefyd yn ystyried rhywbeth newydd am beth mae Cymru a Chymreictod yn golygu iddyn nhw… pwy bynnag yr ydyn nhw!”.
Yn dychwelyd i Arad Goch i berfformio yn y cynhyrchiad, fydd tri actor sy’n wynebau cyfarwydd yng ngwaith y cwmni – Gwern Phillips (‘Ble Mae’r Dail yn Hedfan’, ‘Jemima’) Huw Ferguson (‘Twm Sion Cati’, ‘Croesi’r Llinell’) a Niamh Moulton (‘Tu Fewn Tu Fas’, ‘Jemima’).
“Dwi’n hynod o gyffrous i allu gweithio gydag Arad Goch eto ar y cynhyrchiad Cymrix yn y flwyddyn newydd, ar ôl cael y fraint o weithio ar ddau o’i cynyrchiadau eisoes: taith ysgolion ‘Tu Fewn Tu Fas’ yn 2021, a hefyd taith haf ‘Jemima’ yn 2023” dywedodd Niamh. “Dwi wir yn mwynhau gweithio gyda’r cwmni, a dwi’n edrych ymlaen yn arw i wneud sioe arall heriol, hwyl ag onest. Ymlaen i Wanwyn 2024!”.
Ffion Wyn Bowen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y cwmni fydd yn cyfarwyddo Cymrix, gyda Luned Gwawr yn gyfrifol am gynllunio’r cynhyrchiad, ac Ellie Reynolds yn ymuno gyda’r cwmni am y tro cyntaf fel Rheolwr Llwyfan.
Bydd y cynhyrchiad yn teithio ysgolion Ceredigion a Sir Gâr, gan pontio y cynradd a’r uwchradd felly’n targedu disgyblion blynyddoedd 5, 6 a 7, ac yn cynnig golwg cyfoes, doniol, di-flewyn ar dafod ar beth yw bod yn Gymry ifanc yn yr unfed ganrif ar hugain.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.aradgoch.cymru neu cysylltwch a ni ar post@aradgoch.org / 01970617998
*Yn dilyn taith Cymrix mi fydd Arad Goch yn cynnal Agor Drysau – Gŵyl Theatr Ryngwladol Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc – o’r 12fed i’r 16eg o Fawrth, yna yn teithio ‘Cerdyn Post o Wlad y Rwla’, sef cynhyrchiad haf y cwmni fydd yn teithio theatrau Cymru mis Mai i Gorffennaf.