Canolfan Arad Goch yw cartref Cwmni Theatr Arad Goch yng nghanol tref Aberystwyth. Mae’r adeilad – oedd ar un cyfnod yn ysgoldy a mans – yn drawiadol tu hwnt ac yn adeilad hyblyg sydd ar gael i’w logi. Wedi ei adnewyddu’n llwyr y tu mewn mae’r adnoddau yn wych ac ar gael i’w defnyddio gan unrhyw fudiad neu unigolyn.
Gweithdai, perfformiadau, priodasau, ymarferion, cyrsiau, cyfarfodydd, partïon, arddangosfeydd, dangosiadau… Ffoniwch Canolfan Arad Goch i wneud ymholiadau 01970617998.
Mae Canolfan Arad Goch yn ganolbwynt creadigol yn Aberystwyth, felly galwch heibio i weld ein arddangosfa gelf ddiweddaraf a chadwch lygad ar y dudalen yma i weld beth sy’ ‘mlaen yn yr wythnosau nesaf!