Clybiau

BlAGur

Clwb drama cyfrwng Cymraeg wythnosol i blant 6-11 oed. Cwrdd bob dydd Sadwrn o 10yb – 11:30yb ar gyfer BlAGur bach (Bl 2-3). Ar ddyddiau Llun fe fydd BlAGur Mawr (Bl 4-6) rhwng 4yh – 5:30yh yn ystod tymor ysgol yng Nghanolfan Arad Goch.

AGwedd

Clwb drama cyfrwng Cymraeg wythnosol i blant 11-16 oed (Bl 7-11). Cwrdd bob pnawn Mercher 4pm-5:30pm yn ystod tymor ysgol yng Nghanolfan Arad Goch.

Cysylltwch ag Anne Evans, anne@aradgoch.org i ymuno neu am fwy o wybodaeth am y clybiau drama.