Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi ddefnyddio Gwmni Theatr Arad Goch a Chanolfan Arad Goch… Os ydych chi’n fand newydd sydd angen perfformio, neu’n unigolyn sydd eisiau desg am gyfnod byr yn Aberystwyth – ffoniwch ni i weld os allwn ni helpu!
Llefydd i weithio
Desgiau
Os ydych chi’n edrych am rywle i weithio wrth ddesg yn Aberystwyth, cysylltwch â ni. Gallwn gynnig desg, ffôn, mynediad i Wi-Fi a chyfrifiadur – mae gan unigolion eu gofynion eu hunain, gallwn ddarparu pecyn llogi unigryw i’ch siwtio chi. Ac wrth gwrs, cyfle i weithio mewn cymuned greadigol! Ffoniwch ni i ddechrau sgwrs! 01970617998.
Bandiau
Yn ogystal â gofodau addas i ymarfer, mae gennym hefyd adnoddau, offer ac offerynnau gallwch ddefnyddio. Wrth logi gofod, cofiwch ofyn am unrhyw adnoddau ychwanegol.
Ydych chi’n fand lleol newydd? Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn awyddus i’ch gefnogi chi! Os yw aelodau o’r grŵp yn mynd i ysgol yng nghylch Aberystwyth, a’ch bod chi ar gael i ymarfer yn ystod oriau gwaith (9-5), gallwn gynnig gofod i chi AM DDIM. Ffoniwch ni i weld beth gallwn gynnig! 01970617998.