Canolfan Arad Goch yw cartref Cwmni Theatr Arad Goch yng nghanol tref Aberystwyth. Mae’r adeilad – oedd ar un cyfnod yn ysgoldy a mans – yn drawiadol tu hwnt ac yn adeilad hyblyg sydd ar gael i’w logi. Wedi ei adnewyddu’n llwyr y tu mewn mae’r adnoddau yn wych ac ar gael i’w defnyddio gan unrhyw fudiad neu unigolyn.
Gweithdai, cynadleddau, darlithoedd, perfformiadau, ymarferion, priodasau, cyrsiau, cyfarfodydd, partïon, arddangosfeydd, cyngherddau, gigs, dangosiadau…
Ffoniwch Canolfan Arad Goch i wneud ymholiadau 01970 617998.