Mae gan Canolfan Arad Goch bedwar gofod unigryw y gallwch eu defnyddio i greu eich man priodas arbennig eich hun:
- Y Dderbynfa a’r Oriel – i gyfarfod a chyfarch, arddangos eich lluniau teuluol, diodydd …
- Y Theatr – gellir amgylchu’r gofod mewn gwyn neu ddu, ar gyfer ddiodydd, gwledda neu ddawnsio – gyda goleuadau theatr, system sain a hyd yn oed taflunydd a sgrîn fawr ar gyfer fideos neu luniau;
- Oriel 2, gyda’i ffenestr wydr lliw – ar gyfer cyfnewid addunedau, diodydd, coctels, canapés, siarad, cerddoriaeth ….
- Y Stiwdio – ar gyfer cerddoriaeth ac ymlacio neu ar gyfer storio a pharatoi.