Yr Haf yma, byddwn ni’n cyflwyno cynhyrchiad newydd sbon i theatrau ar draws Cymru, a nawr ry’n ni’n gwybod pa actorion fydd yn mynd ar yr antur newydd hon!
Mae Jemima, gan Jeremy Turner yn ddrama newydd sbon llawn canu, hanes a direidi i blant 7+ am un o fenywod pwysicaf hanes Cymru – Jemima Nicholas. Mae Arad Goch yn adnabyddus am waith theatr i gynulleidfaoedd ifanc sydd yn tynnu ar hanes, chwedlau a chymeriadau Cymru, gyda chynyrchiadau fel Guto Nyth Brân, Twm Siôn Cati a Beca. Y tro hwn mi fyddwn ni’n rhoi’r sylw i’r arwres o Sir Benfro – y fenyw a orfododd ddwsin o filwyr Ffrainc i ildio yn ystod Brwydr Abergwaun yn 1797 gyda’i phicfforch!
Bydd Jemima yn teithio i 19 o theatrau ledled Cymru rhwng y 23ain o Fai a Gorffennaf yr 8fed – cyfle arbennig i drefnu taith ysgol i’r theatr, neu fynd fel teulu! Mae’r daith – sydd yn cychwyn yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac yn gorffen yn Theatr Sherman, Caerdydd – yn cynnwys ymweliad i Theatr Gwaun yn Sir Benfro, sef y sir ble gychwynnodd hanes Jemima.
Mae’r cast yn llawn wynebau newydd, gyda’r rhan helaeth yn perfformio gyda’r cwmni am y tro cyntaf, sef Nia Elin Rees, Leigh Alexandra a Catrin Mai Edwards. Cwblheir y cast gan gyda Gwern Phillips a Niamh Moulton – dau sydd wedi perfformio gyda ni’n ddiweddar; mae Gwern ar hyn o bryd ar daith gyda’n perfformiad Ble Mae’r Dail yn Hedfan, a roedd Niamh yn rhan o gast y cynhyrchiad Tu Fewn Tu Fas.
Leigh Alexandra o Bontarddulais fydd yn chwarae rhan Jemima ei hun.
“Dwi’n gyffrous iawn i ddechrau ein hymarferion a chwarae’r cymeriad Jemima, a darganfod mwy am ei hanes hi. Mae’n deimlad arbennig i wybod y bydda i’n gweithio gyda chast mor wych o dan gyfarwyddyd Jeremy Turner, ac ein bod ni’n teithio i gymaint o Theatrau bendigedig ledled Cymru, am anrhydedd!” – Leigh Alexandra.
I gael tocynnau, cysylltwch a’r theatrau yn uniongurchol (Oni bai am berfformiadau Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. I gadw tocynnau ar gyfer perfformiadau Aberystwyth, cysylltwch a Arad Goch) a chadwch lygad ar sianelau cyfryngau cymdeithasol Arad Goch a’r gwefan www.aradgoch.cymru.