“Mae rhywbeth yn dod i’ch ardal chi, rhywbeth gallwch ond ei weld unwaith. Yn teithio o bentref i bentref, o dref i dref er mwyn dathlu pobl, diwylliant  a thirwedd Ceredigion”.

Mae ynysrwydd cefn gwlad wedi gwaethygu oherwydd COVID19 gan arwain weithiau at orddibyniaeth ar gyfryngau torfol amhersonol. Oherwydd hyn, a gan nad ydym yn gallu perfformio mewn theatrau eto, mae Cwmni Theatr Arad Goch wrthi yn creu cyfres o berfformiadau bach awyr-agored fydd yn digwydd ar draws y sir.

Drwy ddefnyddio chwedlau a hanesion lleol ochr yn ochr â storïau diweddar a newyddion cyfredol byddwn yn cydnabod a dathlu ein hetifeddiaeth yn ogystal â chryfderau a digwyddiadau ein cymuned fodern. Mae gwledigrwydd y sir yn bwysig nid yn unig i ni fel cwmni, ond i holl drigolion y sir sydd wedi cael eu heffeithio gan COVID19.

Theatr ‘gudd’ neu ‘pop-up’ fydd hon; o’r mynyddoedd i’r môr fe fyddwn yn dangos pwysigrwydd hanes, diwylliant a chymunedau’r sir drwy ddod ag eiliadau o brydferthwch a diddanwch er mwyn ceisio gwrthwneud rhai o elfennau ynysrwydd a achosir gan unigrwydd COVID19. Gan ddefnyddio storïau, cerddoriaeth, caneuon a dawnsio a gan gydweithio gyda’r bardd Eurig Salisbury a’r coreograffydd Anna ap Robert mae’r actorion yn creu a pherfformio darnau fydd yn unigryw i gymunedau Ceredigion.

Yn ôl Jeremy Turner, y Cyfarwyddwr Artistig “Mae hwn yn gyfle gwych i feddwl mewn ffyrdd gwahanol am sut i greu a pherfformio ac i ailddarganfod hanfodion theatr yn ei ffurf fwyaf amrwd – ychydig o berfformwyr, ychydig o gynulleidfa a dim technoleg. Fe fydd yn her i’r actorion gan y bydd pob diwrnod a phob perfformiad yn wahanol, gyda lleoliadau amrywiol pe bai ar stondin llaeth, mainc ar groesffordd lle bydd pobl yn ymgynnull am sgwrs, patshyn o laswellt o flaen tafarn neu swyddfa bost i gyfnewid stori – ac wrth gwrs bydd angen ystyried y cŵn, y gwylanod a’r glaw yn ogystal â chyfyngiadau a diogelwch Covid. Oherwydd cyfyngiadau COVID fyddwn ni ddim yn ceisio denu tyrfaoedd enfawr  a byddwn yn hapus i berfformio i ddau berson ar ochr y stryd neu dros wal yr ardd”.

Cychwynnir y daith ar yr 25ain o Fehefin. Gan na fyddwn yn cyhoeddi ble na phryd yn union y byddwn yn ymweld fe fydd yn rhaid i’r cyhoedd wylio ein cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn rhoi awgrymiadau yn ddyddiol o’n lleoliadau nesaf. Hefyd gallwch ddilyn y daith ar ein gwefan lle byddwn yn rhyddhau lluniau o’r digwyddiadau, o dirwedd Ceredigion ac o rai o’r bobl byddwn yn cwrdd â nhw – yn ogystal â diweddaru lleoliadau’r daith. Ac mae modd i bobl ein gwahodd i berfformio yn eu pentref nhw neu i ddod i berfformio i ddathlu achlysur arbennig.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Cynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru

Gyda diolch hefyd i Gyngor Celfyddydau Cymru am y gefnogaeth am y prosiect hwn.

X