Mae hi’n nesau at ddiwedd ar y flwyddyn ysgol, felly mae’n amser i glybiau drama Arad Goch ddangos yr holl waith maent wedi bod yn gwneud dros y flwyddyn diwethaf!

Erbyn ddiwedd Mis Gorffennaf hwn, bydd y tri Clwb Drama, sef BlAGur Bach i blant ym mlynyddoedd ysgol 2 a 3, BlAGur Mawr i flynyddoedd 4 i 6, ac AGwedd, sydd i blant blynyddoedd 7 i 11, wedi perfformio’r sioeau maent wedi bod yn gweithio arnyn nhw gyda Ffion Wyn Bowen, sef Cyfarwyddwr Cynorthwyol y cwmni, dros y blwyddyn diwethaf! Mi fydden nhw’n perfformio i gynulleidfa o wylwyr theatr brwdfrydig dros ben- sef eu teuluoedd!

Rydym ni i gyd yn dymuno pob lwc i’r actorion ifanc, ac yn diolch i’w teuluoedd nhw am yr holl gefnogaeth dros y flwyddyn diwethaf.

 

X