Symud cyffuriau o un man i’r llall…… swnio’n digon syml? Bydd e’n union fel gêm ar y Playstation.

Cynhyrchiad newydd Cwmni Theatr Arad Goch yw Croesi’r Llinell sy’n delio gyda materion County Lines – cyffuriau, trais, bygythiadau a chamfanteisio ar bobl ifanc a phlant i wneud eu gwaith brwnt i gyd. Mae County Lines yn broblem sydd yn effeithio cefn gwlad Cymru yn ogystal a’r dinasoedd a threfi mawr. Pan mae person ifanc yn cael ei gamarwain i symud cyffuriau, a’i nhw yw’r dioddefwyr? Neu oes rhaid iddyn nhw fod yn atebol am eu gweithredoedd?

“County Lines” yw’r broses droseddol o sefydlu rhwydwaith i ardaloedd gwledig, lle gall gangiau ehangu eu gweithgareddau delio cyffuriau o’u canolfan ganolog (fel arfer mewn dinasoedd mawr) i ardaloedd llai i wneud mwy o arian. I wneud hyn, maent yn cyflogi “rhedwyr” sy’n gyfrifol am symud cyffuriau ac arian. Defnyddir llinellau ffôn i gyfathrebu’r cynlluniau hyn, gyda “rhedwyr” yn aml yn cael ffôn penodol i wneud hyn.

Wedi’i ysgrifennu gan Mared Llywelyn Williams, fe fydd y cynhyrchiad yn teithio o amgylch ysgolion Powys, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion dros yr wythnosau nesaf.

Oed

12+

Ar Daith

Tymor yr Hydref

Cyfarwyddwyr

Carwyn Blayney

X