Mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi penodi’r actor a’r cyfarwyddwr Ffion Wyn Bowen yn Gyfarwyddwr Artistig.
Yn wyneb ac enw cyfarwydd ym maes theatr yng Nghymru, mae Ffion wedi arbenigo mewn theatr i gynulleidfaoedd ifanc dros gyfnod o 28 o flynyddoedd.
Bydd Ffion, ynghyd â’r Cyfarwyddwr Busnes Nia Wyn Evans, yn gyfrifol am arwain y cwmni a Chanolfan Arad Goch yn Aberystwyth.
Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, graddiodd Ffion mewn Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth a chwblhau cwrs TAR Uwchradd Drama cyn cael ei swydd broffesiynol gyntaf un fel actores gan Arad Goch yn 1996.
Yn fwy diweddar bu’n gyfarwyddwr Llygoden yr Eira cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, Antur y Goron cyd-gynhyrchiad Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chwmni Atebol, Cymrix a Ble mae’r dail yn hedfan ar gyfer Arad Goch, Cyfarwyddwr testun ar Whimsey cyd-cynhyrchiad Krystal S. Lowe a Theatr Genedlaethol Cymru ac fe’i dewiswyd yn aelod o Gynllun Awenau Theatr Genedlaethol Cymru – Cynllun hyfforddiant i Gyfarwyddwyr newydd yn 2019.
Yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cadeirydd Cwmni Theatr Arad Goch, mae gweledigaeth gyffrous gan Ffion wrth i ni gychwyn ar gyfnod newydd i’r cwmni.
“Rydym yn hynod falch y bydd Ffion Wyn Bowen yn cymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Artistig i gyd-arwain Arad Goch gyda Nia Wyn Evans y Cyfarwyddwr Busnes. Dyma fodel newydd a chyffrous i ni ac edrychwn ymlaen yn hyderus at y cyfnod nesaf hwn yn hanes y cwmni. Mae gan y ddwy gyfuniad delfrydol o sgiliau, profiad ac angerdd i greu’r cyd-destun ar gyfer theatr fywiog, berthnasol a heriol i’n pobl ifanc gan ddod a’r iaith Gymraeg a phrofiadau ffurfiannol yn fyw iddynt.
“Mae gan Ffion brofiad helaeth fel actor a chyfarwyddwr, yma yng Nghymru a thrwy deithio ei gwaith yn rhyngwladol. Bydd y profiad hwnnw yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i wireddu ein huchelgais fel cwmni o sicrhau llwyfan teilwng i’r celfyddydau ac i ysbrydoli’r genhedlaeth ifanc.”
Bydd Ffion yn olynu Jeremy Turner, sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch ers y cychwyn cyntaf dros 35 o flynyddoedd yn ôl.
A hithau newydd ddychwelyd o Gatalonia lle bu’n ymweld â gwyl theatrig, dywedodd Ffion Wyn Bowen:
“Mae creu a datblygu theatr i bobl ifanc wedi bod yn hollbwysig i fi ar hyd fy ngyrfa, ers i fi gael y cyfle proffesiynol cyntaf hwnnw gan Arad Goch flynyddoedd lawer yn bellach. Ers y cychwyn hwnnw rwyf wedi cael y cyfle i weithio gydag amryw o gwmnïau yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol ac mae pob profiad wedi cyfoethogi fy ngwybodaeth a chryfhau fy angerdd dros theatr i bobl ifanc.”
“Sail llwyddiant Arad Goch ar hyd y blynyddoedd yw’r parodrwydd i esblygu ac i beidio a bod yn llonydd ac rwy’n awyddus i barhau felly yn y cyfnod cyffrous sydd o’n blaenau.”
Bydd y Cyfarwyddwr Artistig yn cydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Busnes, Nia Wyn Evans, i gyd-arwain y cwmni dros y cyfnod nesaf.
Bydd Ffion yn dechrau yn ei swydd yn ffurfiol ar 1 Gorffennaf eleni.