Mae’n amser troi ein sylw at un o’n prif ddigwyddiadau yn 2024, Gŵyl Agor Drysau.

 

Hon yw’r 10fed ŵyl Agor Drysau, fydd yn gwahodd llwyth o gwmnïau theatr ledled y byd i berfformio yng Nghymru.

 

Ond yn ogystal a bod yn cyfle i blant a phobl ifanc Cymru i weld cynyrchiadau unigryw o wledydd eraill, mae’r ŵyl hefyd yn blatfform i ni yng Nghymru arddangos y gorau o theatr Cymreig i gynulleidfaoedd ifanc. Gyda chynhyrchwyr a rhaglenwyr theatr o bedwar ban byd yn dod i’r ŵyl, mae Agor Drysau yn ffenest siop i’r byd weld y gwaith arbennig sy’n cael eu greu yma. Felly dyma restr o’r cynyrchiadau a chwmnïau o Gymru fydd yn perfformio yn yr ŵyl:

 

Theatr Iolo – Owl at Home

Theatr Genedlaethol Cymru – Yr Hogyn Pren

Hijinx – Meet Fred

Osian Meilir – Qwerin

Krystal S, Lowe – Remarkable Rhythm

Prifysgol De Cymru – Pwy Fyddi di? / Who Will You Be?

Syrcas Cimera (Perfformiadau stryd)

 

Bydd hefyd darn o waith newydd sbon gan Jason & Becky yn cael ei ddatgelu yn ystod wythnos yr ŵyl. Cynhyrchiad ryngweithiol o’r enw Rheolydd sydd yn cael ei greu’n arbennig ar gyfer yw ŵyl. Yn ogystal, byddwn ni hefyd yn llwyfannu rhai o’n cynyrchiadau ein hunain, gan gynnwys cynyrchiadau newydd sydd wedi cael eu datblygu trwy ein cynllun 6X1.

 

Ble Mae’r Dail yn Hedfan

Palmant Pridd

Breaking Illusions (Cynllun 6X1)

Minlliw (Cynllun 6X1)

 

Bydd Gŵyl Agor Drysau yn cychwyn ar y 12fed o Fawrth 2024, gyda llwyth o sioeau, sgyrsiau, gweithdai a mwy yn Aberystwyth a threfi eraill tan y 16eg o Fawrth.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am fwy o ddiweddariadau a chyhoeddiadau cyffrous!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a post@aradgoch.org neu ffoniwch 01970 617998.

X