Bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd am ddiwrnod llawn hwyl a gweithgareddau i’r teulu cyfan i’ch croesawu i’r ganolfan ar ei newydd wedd. Gweler yr amserlen lawn isod.
Gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor y Celfyddydau trwy gronfa’r Loteri Fawr, Cynllun Grantiau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion a Chronfa Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru aethpwyd ati nôl i gynllunio ac adnewyddu ardal blaen y ganolfan. Erbyn hyn, mae’r gwaith wedi’i gwblhau gan drawsnewid y fynedfa yn gyntedd deniadol ac oriel arddangos mewn gofod hyblyg sy’n ddefnyddiol ar gyfer pob math o weithgareddau. Yn goron ar y gwaith adnewyddu, comisiynwyd y gôf Ann Catrin Evans i greu gwaith celf metel a bydd hwn yn cael ei osod ar flaen yr adeilad.
Diwrnod Agored Canolfan Arad Goch.
Dydd Sadwrn yr 21ain o Fedi byddwn yn agor ein drysau led y pen i groesau bobl leol a ffrindiau ar draws Cymru gyfan i ymuno â ni i ddathlu’r ganolfan ar ei newydd wedd. Bydd gweithdai amrywiol ar gyfer plant a phobl ifanc, sesiwn stori i’r rhai lleiaf a’u teuluoedd, gweithdy ymladd llwyfan, a sesiwn Strictly Cymru i bawb! Bydd gig hefyd ar gyfer rhai dan 17 oed i gloi’r gweithgaredd.
Yn ystod y prynhawn byddwn yn croesawu Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Llywodraeth Cymru a Mr Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru i arwain derbyniad a chinio cyn cael cyfle i wylio rhag-olwg o brosiect diweddaraf y cwmni. Mae’r ddrama Hudo wedi’i datblygu ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys ac mi fydd hi’n teithio ysgolion uwchradd ar draws Cymru rhwng mis medi a Rhagfyr eleni yn trafod cam-fanteisio rhywiol ymysg bobl ifanc.
“Mae’n bwysig ein bod ni fel artistiaid theatr yn cael cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â’n cynulleidfa – sef plant a phobl ifanc. Nhw yw ein hysbrydoliaeth a gallwn ddysgu llawer oddi wrthynt. Bydd agor Theatr Arad Goch ar ei newydd wedd yn ein galluogi i greu mwy o gyfleoedd creadigol i fwy o bobl – yn artistiaid proffesiynol ac aelodau’n cymuned yng Ngheredigion. Rydw i wir yn edrych ymlaen at y bwrlwm!” – Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig
Amserlen y dydd:
10.00 – 11.30
Gweithdy drama i bobl ifanc (11-18 oed) – does dim angen profiad blaenorol
Gweithdy drama i blant (6-11 oed) – does dim angen profiad blaenorol
14.30 – 15.15
Straeon i blant bach (3-7 oed a’u teuluoedd)
14.30 – 16.00
Gweithdy Ymladd Llwyfan (10 oed a hŷn)
16.00 – 17.30
Sesiwn “Strictly Cymru” (i bob oed)
18.00 – 19.30
Band a DJ i bobl ifanc (i rai dan 17 oed)
Hefyd trwy gydol y dydd:
Crefft… teithiau tywys… gwisgo lan a thynnu ffoto… cerddoriaeth byw… arddangosfeydd celf.
Galwch mewn!