Chwefror, 2020

13chwe10:00 amBwrlwm BabisCyfres o weithgareddau yng Nghanolfan Arad Goch ar gyfer babanod

Rhagor o Wybodaeth

Manylion y Digwyddiad

BWRLWM BABIS – chwarae – cwmni – creu

Dyma gyfres o weithgareddau yng Nghanolfan Arad Goch ar gyfer babanod

Grwp 1: 6 – 18 mis oed. 10:00 – 10:40

Grwp 2: 18 – 36 mis oed. 11:00 – 11:40

Bydd sesiwn ar yr ail ddydd Iau bob mis yn ystod tymor yr ysgol . Cynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg a chroeso i ddysgwyr. Rhaid i riant neu gofalwr aros gyda phlentyn trwy gydol y sesiwn.

Bydd amrywiaeth o brofiadau rhyngweithiol – cyfle i annog datblygiad creadigol a chymdeithasol plant ifanc mewn awyrgylch gyfeillgar.

Gall y plant ddysgu trwy chwarae a darganfod trwy’r synhwyrau.
Bydd pob sesiwn yn seiliedig ar thema wahanol – gyda chyfle i’r plant gwrdd â chymeriad perthnasol i’r thema.

Rhaid archebu lle o flaen llaw – nifer cyfyngedig i gael. Ffoniwch 01970617998 neu ebostiwch post@aradgoch.org i gadw lle.

Sbardun i chwarae. Cwmni wrth fagu. Cyfle i greu.

Amser

(Dydd Iau) 10:00 am

Lleoliad

Canolfan Arad Goch

Bath St, Aberystwyth, SY23 2NN

X