january, 2020
09jan10:00 amBwrlwm BabisCyfres o weithgareddau yng Nghanolfan Arad Goch ar gyfer babanod
Event Details
BWRLWM BABIS – chwarae – cwmni - creu Dyma gyfres o weithgareddau yng Nghanolfan Arad Goch ar gyfer babanod Grwp 1: 6 – 18 mis oed. 10:00 - 10:40 Grwp 2: 18 –
more
Event Details
BWRLWM BABIS – chwarae – cwmni – creu
Dyma gyfres o weithgareddau yng Nghanolfan Arad Goch ar gyfer babanod
Grwp 1: 6 – 18 mis oed. 10:00 – 10:40
Grwp 2: 18 – 36 mis oed. 11:00 – 11:40
Bydd sesiwn ar yr ail ddydd Iau bob mis yn ystod tymor yr ysgol . Cynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg a chroeso i ddysgwyr. Rhaid i riant neu gofalwr aros gyda phlentyn trwy gydol y sesiwn.
Bydd amrywiaeth o brofiadau rhyngweithiol – cyfle i annog datblygiad creadigol a chymdeithasol plant ifanc mewn awyrgylch gyfeillgar.
Gall y plant ddysgu trwy chwarae a darganfod trwy’r synhwyrau.
Bydd pob sesiwn yn seiliedig ar thema wahanol – gyda chyfle i’r plant gwrdd â chymeriad perthnasol i’r thema.
Rhaid archebu lle o flaen llaw – nifer cyfyngedig i gael. Ffoniwch 01970617998 neu ebostiwch post@aradgoch.org i gadw lle.
Sbardun i chwarae. Cwmni wrth fagu. Cyfle i greu.
Time
(Thursday) 10:00 am
Location
Canolfan Arad Goch
Bath St, Aberystwyth, SY23 2NN