Mawrth, 2023

This is a repeating event

06maw4:00 pm5:30 pmClwb Drama BlAGur MawrClwb Drama Cwmni Theatr Arad Goch Blynyddoedd 4 - 6

Manylion y Digwyddiad

Clwb drama hynod boblogaidd yw BlAGur Mawr. Cyfle i blant fagu hyder a sgiliau gyda gemau drama a llawer o fwynhad. Mae’n gyfle gwych i agor drws dychymyg drwy waith byrfyfyr, chwarae rôl, gwaith cymeriadu a sgript a syniadau’r plant eu hunain.

Cynhelir BlAGur Mawr ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 ar brynhawn dydd Llun 4-5:30.

Pris tymor yw £70 am 10 sesiwn. Er mwyn ymaelodi, cysylltwch ag Anne Evans: 01970 617998 / anne@aradgoch.org. Cysylltwch gyda ni os ydych am gael blas o’r clwb drama.

Cynhelir y sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Amser

(Dydd Llun) 4:00 pm - 5:30 pm

Lleoliad

Canolfan Arad Goch

Bath St, Aberystwyth, SY23 2NN

X