Mawrth, 2020

14maw12:15 pm1:45 pmGweithdy Trin Metel Ann Catrin Evans (Prynhawn)Gweithdy i blant a rhieni gyda'i gilydd

Rhagor o Wybodaeth

Manylion y Digwyddiad

Gweithdy i blant a rhieni gyda’i gilydd.

Dewch i weithio gyda’r gof enwog Ann Catrin Evans mewn gweithdy trin metel. Mae hwn yn gyfle i blentyn a rhiant neu oedolyn arall greu gyda’i gilydd – a cewch gadw’r trysor byddwch chi wedi’i greu.

Dyddiad: 14/3/2020 am 10:00 – 11.30, neu am 12.15-13.45.

Cost y gweithdy (i ddau berson – plentyn ac oedolyn): £20

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar y cyrsiau.

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd creadigol; mae’r gweithdy yma yn rhan o’n hawydd i alluogi plant a’u rhieni neu oedolion eraill i gyd-greu drwy weithgareddau Cymraeg.

Mae Ann Catrin Evans yn adnabyddus am ei gwaith metel mawr a bach; hi yw’r cerflunydd a gynlluniodd y gwaith celf metel hyfryd sydd i’w weld ar flaen Canolfan Arad Goch.

Amser

(Dydd Sadwrn) 12:15 pm - 1:45 pm

Lleoliad

Canolfan Arad Goch

Bath St, Aberystwyth, SY23 2NN

X