Hoffai Cwmni Theatr Arad Goch, mewn cydweithrediad ag Addo, gomisiynu gwaith perfformiadol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc i’w gyflwyno yn Gŵyl Agor Drysau 2024 yn Aberystwyth.

Boed yn berfformiad promenâd yn yr awyr agored, yn brofiad rhyngweithiol, neu yn ddigwyddiad amlgyfrwng neu storïol, rydym yn awyddus i dderbyn eich cynigion. Gallai’r gwaith fod ar gyfer gofodau tu mewn neu yn yr awyr agored. Anogwn wreiddioldeb a ffyrdd amgen o ddiddanu a chysylltu â phlant a phobl ifanc.

Mae’r thema yn agored, ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn syniadau sydd yn ymwneud â’r diwydiant gwlân. Gallai’r gwaith fod yn greadigaeth newydd sbon neu yn addasiad o rhywbeth sy’n bodoli’n barod ond sy’n cael ei deilwra ar gyfer ei gyflwyno yn nhref Aberystwyth.

Mae’r cyfle hwn yn agored i ymarferwyr unigol, partneriaethau a chwmnïau sydd â diddordeb mewn gwthio ffiniau gwaith perfformiadol.

Bydd yn rhaid i’r gwaith fod ar gael i’w ddangos / berfformio fel rhan o raglen Gŵyl Agor Drysau yn Aberystwyth ar 12-16 Mawrth 2024.

Gŵyl Agor Drysau

Gŵyl Agor Drysau, a drefnir gan Gwmni Theatr Arad Goch, yw gŵyl theatr ryngwladol Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.

Nod yr ŵyl yw rhoi’r cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru weld rhai o gynyrchiadau theatr gorau’r byd yn ogystal â rhoi cyfle i raglenwyr a chynhyrchwyr rhyngwladol brofi cyfoeth celfyddydau perfformio Cymru. Mae’r ŵyl yn ffenest siop ar gyfer gwaith o Gymru gyda llawer o gynyrchiadau’n y gorffennol wedi cael eu gwahodd i deithio’n rhyngwladol yn ei sgil.

Cynhelir perfformiadau, gweithdai a sgyrsiau yn nhref Aberystwyth, sef cartref yr ŵyl, ac mewn theatrau ledled y wlad.

Sefydlwyd yr ŵyl yn 1996, ac fe gaiff ei chynnal am y 10fed tro ar 12-16 Mawrth 2024. Ceir gwybodaeth am yr ŵyl ddiwethaf ar www.agordrysau.cymru

Cwmni Theatr Arad Goch

Wedi’i leoli yn Aberystwyth, sefydlwyd y cwmni yn 1989 drwy uno dau o gwmnïau theatr hynaf Cymru ar y pryd, sef Theatr Crwban a Chwmni Cyfri Tri. Ei brif nod ers ei sefydlu yw darparu theatr o’r safon uchaf, yn bennaf i blant a phobl ifanc. Mae’r cwmni yn perfformio yn y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill.

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn creu hyd at bum cynhyrchiad y flwyddyn – rhai i ysgolion yng Nghymru, ac eraill yn gynyrchiadau cyhoeddus sy’n teithio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i theatrau. Dros y blynyddoedd mae’r cwmni wedi perfformio yn Ffrainc, Sbaen, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Corea, Singapore, Tunisia, Canada, UDA a gwledydd eraill. Mae’r cwmni hefyd yn cynhyrchu digwyddiadau a phrosiectau ar raddfa fawr megis Gŵyl Hen Linell Bell, a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 2017, y sioe gerdd Cysgu’n Brysur, a’r cynhyrchiad crwydrol, Clera.

Yn ogystal â chynyrchiadau, mae’r cwmni’n cynnal clybiau drama i blant a phobl ifanc, a gweithgareddau creadigol o bob math drwy’r flwyddyn. Mae Canolfan Arad Goch yng nghanol tref Aberystwyth yn hwb cymunedol bywiog gydag oriel gelf, theatr, a gofodau ymarfer a chyfarfod.

Addo

Mae Addo yn sefydliad celfyddydol nid-er-elw sy’n arbenigo mewn curadu celf gyfoes cyhoeddus. Gan weithio gyda ac ar ran artistiaid, grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol, a phartneriaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus, mae wedi curadu, rheoli a chynhyrchu: prosiectau a gwaith celf cyhoeddus parhaol a dros dro; preswyliadau artist; strategaethau ac astudiaethau ariannu, ymchwil a gwerthuso; ac amrywiaeth o arddangosfeydd a digwyddiadau mewn gofodau celfyddydol, ac rhai sydd ddim.

Cyllideb

Mae gennym hyd at £4,500 ar gael ar gyfer y comisiwn. Mae’r arian hwn ar gyfer talu ffioedd artistiaid, yr holl ddeunyddiau a chostau creu’r gwaith, a’r ffi perfformio yn ystod yr ŵyl.

Beth y gallwn ni ei gynnig

Os oes angen, gallwn ni gynnig gofod ymarfer am ddim i chi yn Aberystwyth fel rhan o’r broses greu.
Byddwn yn talu costau teithio a llety i’r artist(iaid) ac unigolion eraill sy’n rhan o’r creu i gyflwyno yn yr ŵyl, os oes angen. Dylech nodi’r gofynion hyn yn eich cais.

Bydd tîm technegol a chynhyrchu Cwmni Theatr Arad Goch ar gael i roi cymorth a chyngor. Os oes angen arbenigedd neu gyfarpar amgen arnoch i greu a chyflwyno’r gwaith, nodwch hyn yn eich cais ac fel rhan o’ch cyllideb.

Mae cyfle i’r artist(iaid) llwyddiannus dderbyn sesiynau mentora ar greu gwaith perfformiadol i gynulleidfaoedd ifanc gan Cwmni Theatr Arad Goch. Yn ogystal, pe dymunir, mae cyfle i’r artist(iaid) llwyddiannus dderbyn sesiynau mentora ar greu gwaith safle benodol gan arbenigwyr sy’n gysylltiedig â sefydliad Addo. Os ydy hyn o ddiddordeb, dylech ei nodi fel rhan o’ch cais hefyd.

Lleoliad cyflwyno

Bydd amryw o leoliadau yn Aberystwyth ar gael i chi i gyflwyno’ch gwaith a byddwn yn cydweithio gyda chi i sicrhau mynediad ac hawliau defnyddio. Gallech fod yn cyflwyno mewn lleoliadau megis y prom, y traeth, neu mewn siopau gwag. Mae Canolfan Arad Goch hefyd yn opsiwn; mae manylion y gofodau sydd ar gael yma: https://aradgoch.cymru/canolfan-arad-goch/llogi-ystafelloedd/

Gofynnir i chi ystyried hygyrchedd eich gwaith i gynulleidfa.

Beth bynnag yw eich gweledigaeth, hyd yn oed os nad oes lleoliad pendant gyda chi mewn golwg eto, neu os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r dref, gallwn ni weithio gyda chi i ganfod gofod addas.

Hawliau a Chydnabyddiaethau

Yr artist(iaid) fydd biau’r hawl am y gwaith a grëir.

Bydd yr artist(iaid), Cwmni Theatr Arad Goch ac Addo yn cael eu cydnabod ar unrhyw ddeunydd cyhoeddus a marchnata a gynhyrchir ar gyfer yr ŵyl. Yn ogystal bydd yn rhaid i arianwyr y cwmnïau yn cael eu cydnabod yn y ffyrdd arferol ar unrhyw ddeunydd cyhoeddus a marchnata a gynhyrchir gan yr artist(iaid).

Gwneud cais

Dylai ceisiadau gynnwys:
• disgrifiad o’r syniad;
• yr oedran a dargedir;
• gofynion ychwanegol e.e. technegol, gofod ymarfer;
• manylion am hygyrchedd y gwaith o safbwynt cynulleidfa;
• amserlen;
• cyllideb;
• gwybodaeth am waith a phrofiad blaenorol yr artist(iaid);
• dolen(ni) i enghreifftiau o’ch gwaith, os yn bosib, er enghraifft fideos a lluniau.

E-bostiwch eich ceisiadau at Cwmni Theatr Arad Goch: post@aradgoch.org

Mae croeso i chi gysylltu am sgwrs anffurfiol cyn cyflwyno cais.

Dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau: 31 Awst 2023

X