Ers nifer o flynyddoedd mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi gweithredu prosiect 6×1 i annog a chynorthwyo perfformwyr llaw-rydd i greu perfformiadau un-person newydd.
Nawr, rydyn ni am ddatblgu’r cynllun, o dan yr enw newydd AGoriad. Bydd y cynllun yn rhoi ffocws ar faterion sydd yn ymwneud â charfannau nas cynrychiolir yn ddigonol yn y celfyddydau drwy’r Gymraeg i blant neu i bobl ifanc.
Y tro hwn rydyn ni’n gwahodd cynigion gan unigolion neu gan grwpiau o hyd at 3 artist/perfformiwr o groesdoriad o gefndiroedd, ableddau ac hunaniaethau. Mae ein cyllideb yn gyfyngedig felly, i gychwyn, dim ond 2 neu 3 o’r cynigion y gallwn eu gweithredu. Gobeithir datblygu’r cynllun yn ehangach yn y dyfodol.
Byddwn yn talu £494 y person yr wythnos am dair wythnos ynghŷd â chostau llety yn Aberystwyth.
Un o elfennau pwysica’r cynllun fydd y trafodaethau rhwng yr artistiaid gwâdd a staff Arad Goch – a hynny er mwyn i ni wella ein syniadau a’n dealltwriaeth o faterion cynhwysedd. Bydd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni neu’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gael pan fo angen i helpu a mentora’r artistiaid drwy broses dyfeisio. Ond ni fyddan nhw’n arwain na chyfarwyddo; bydd y pwyslais ar eich gwaith a’ch syniadau chi.
Mae manylion ar y tudalennau nesaf.
Ceisiadau
Gan mai cynnig cymorth i ddatblygu syniadau yw’r bwriad, ni ddisgwylir sgriptiau gorffenedig – er mae modd cynnig rheiny os dymunir.
Dylai ceisiadau gynnwys:
- amlinelliad cychwynol byr (dim mwy na dwy ochr A4) o’r syniad/sgript gan sôn am gynnwys ac arddull;
- unrhyw ddeunydd atodol neu gefndirol os ydyw ar gael; ‘dyw hwn ddim yn angenrheidiol;
- syniadau am ofynion penodol, e.e. technegol, os ydyw ar gael; ‘dyw hwn ddim yn angenrheidiol;
- gwybodaeth am eich argaeledd dros y 6 mis nesaf;
- ychydig o wybodaeth am eich gwaith a’ch phrofiad.
Bydd y ceisiadau yn cael eu hystyried gan banel fydd yn cynnwys Cyfarwyddwr Atistig y cwmni ynghŷd â gweithwyr annibynnol o garfannau nas cynrychiolir yn ddigonol gan gynnwys y dawnsiwr Osian Meilir,
Dylid anfon ceisiadau at: AGoriad, Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig, Cwmni Theatr Arad Goch,
Stryd y Baddon, Aberystwyth SY23 2NN
neu drwy ebost at: jeremy@aradgoch.org
Mae croeso i chi gysylltu â’r Cyfarwyddwr Artistig i drafod y cynllun a’ch syniadau cyn anfon cais, drwy ebost neu ffôn: 01970 617 998 / 07474 886 940.