Gweithgaredd diweddaraf Arad Goch fel rhan o Arad Goch Ar-Lein!
Hoffi lliwio? Hoffi theatr? Dyma i chi rywbeth allwch chi wneud gyda phlant ifanc i’w cadw’n greadigol trwy gyfnod y ‘cau lawr’.
Mae’r dylunydd Elgan Griffiths wedi addasu pump o luniau o’n cynyrchiadau i chi eu lliwio mewn! Wedyn, pan mae’r lluniau wedi eu lliwio, beth am roi llais iddyn nhw? Llenwch y swigod siarad sydd yn dod allan o gegau’r cymeriadau! Beth ydych chi’n meddwl mae nhw’n ddweud?
Mae’r lluniau ar gael i lawrlwythio o dan adran ‘Addysg’ Gwefan Arad Goch. Ewch i Addysg, yna Theatr Mewn Addysg a Phecynnau Addysg. Neu, lawrlwythwch y lluniau gyda’r botwm isod!
Yna, rhannwch eich gwaith gyda ni! Anfonwch luniau i post@aradgoch.org neu gallwch chi rannu’ch gwaith trwy ein tudalennau Facebook neu Twitter.