Gŵyl Agor Drysau 2024 – Cadwch y Dyddiad!

Am y tro cyntaf ers 2019, mae Agor Drysau – gŵyl theatr ryngwladol Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc – yn ôl. Dyma fydd y 10fed Ŵyl Agor Drysau i Gwmni Theatr Arad Goch gynnal, ac mae’n argoeli i fod yn ddigwyddiad arbennig unwaith eto.

Rhwng y 12 – 16 Mawrth 2024 bydd cwmnïau theatr yn dod i Aberystwyth a chanolfannau eraill yng Nghymru i berfformio. Bydd Aberystwyth yn llawn bwrlwm gyda pherfformiadau mewn theatrau, neuaddau, ysgolion ac ar y stryd, a chyfle i bawb brofi rhai o gynyrchiadau gorau’r byd i blant a phobl ifanc (ac oedolion hefyd).

Yn ogystal â’r cynyrchiadau gan gwmnïau o Gymru a chwmnïau rhyngwladol, bydd yr ŵyl hefyd yn denu ymarferwyr theatr a rhaglenwyr o bedwar ban byd i Aberystwyth. Bydd yr ŵyl yn rhoi’r cyfle i ni arddangos y gorau o sin theatr Cymru.

Nod yr ŵyl yw rhoi’r cyfle i deuluoedd, plant a phobl ifanc Cymru brofi rhai o gynyrchiadau theatr gorau’r byd. Bydd y rhaglen yn cynnwys 10 cynhyrchiad o Gymru a 7 cynhyrchiad rhyngwladol dros gyfnod o 5 diwrnod. Bydd hefyd gweithdai, sgyrsiau a digwyddiadau cymdeithasol yn nhref Aberystwyth, gyda’r ŵyl yn cynnig platfform arbennig i annog cydweithio, rhannu syniadau a datblygu cysylltiadau rhyngwladol newydd.

Boed mewn theatr, neuadd, ysgol neu ar y stryd, bydd cyfle i bawb gael blas ar Agor Drysau 2024. Bydd gwybodaeth am docynnau a rhaglen yr ŵyl ar gael yn fuan, ond am y tro – Cadwch y Dyddiad!

Caiff Gŵyl Agor Drysau ei chynnal yn Aberystwyth ac mewn lleoliadau eraill yng Nghymru ar 12 – 16 Mawrth 2024. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â steffan@aradgoch.org a chadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Arad Goch.

X