Cwmni Theatr Arad Goch yw un o brif ddarparwyr theatr i bobl ifanc yng Nghymru. Mae ei waith wedi gwefreiddio cynulleidfaoedd helaeth yng Nghymru a dros y byd ers ei sefydlu yn 1989.

Un o’r prif resymau am ei lwyddiant dros y degawdau yw gweledigaeth barhaus y sylfaenydd a’r cyfarwyddwr artistig Jeremy Turner. Mae Jeremy yn awr wedi penderfynu mai dyma’r amser i ymddeol ac mae’r gwaith wedi cychwyn i edrych am olynydd iddo.

Roedd Jeremy yn un o’r criw, ynghyd â Mari Rhian Owen, Mair Tomos Ifans, Siôr Llyfni, Ellen ap Gwynn, Catrin Hughes a sefydlodd y cwmni yn 1989 pan unwyd Theatr Crwban, y cwmni theatr-mewn-addysg Cymraeg cyntaf, a’r cwmni arbrofol, Cwmni Cyfri Tri. Ers hynny mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi datblygu a thyfu y tu hwnt i’r hyn ddychmygwyd bryd hynny, fel y dywed Jeremy:

“Ym mlynyddoedd cynnar y cwmni roedd gyda ni un ffôn, dau gyfrifiadur Amstrad a thair desg, a bydden ni’n cynnal ymarferion yn oerni hen Ganolfan y Sgubor yn Aberystwyth.

“Erbyn hyn mae gan y cwmni ei ganolfan, ei theatr a’i adnoddau gwych ei hun yn Aberystwyth a brynwyd yn 1992 a’i addasu gyda nawdd sylweddol o dros £3.6 miliwn yn 2008 ac eto yn 2018.”

Defnyddir y ganolfan yn Aberystwyth gan Arad Goch ei hun, gan artistiaid a sefydliadau eraill, gan aelodau’r gymuned leol, yn enwedig plant a phobl ifanc, ac hyd yn oed ar gyfer priodasau.

Mae’r cwmni yn parhau i ddarparu theatr mewn ysgolion, diolch i weledigaeth a chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gâr, yn ogystal â cyflwyno dramâu i blant neu i bobl ifanc mewn theatrau, gofodau cymunedol a chanolfannau ieuenctid ledled Cymru a thu hwnt. Mae’r cwmni yn cyrraedd tua 24,000 o bobl ifanc bob blwyddyn, rhwng y perfformiadau a’r gweithgareddau creadigol cyfranogol.

Ychwanegodd Jeremy:

“Erbyn hyn mae tair cenhedlaeth o bobl wedi gweld gwaith y cwmni, ac mae rhieni ac ambell i fam-gu a thad-cu a welodd y cynyrchiadau cyntaf bellach yn dod â’u plant a’u wyrion i weld y cynyrchiadau diweddaraf. Mae theatr yn rhan hanfodol o gynorthwyo plant a phobl ifanc i werthfawrogi eu hunaniaeth fel Cymry.”

Mae Arad Goch hefyd yn mynd a’u gwaith i lwyfannau rhyngwladol ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r cwmni wedi perfformio yn Rwsia, De Corea, Tiwnisia, Ffrainc, Catalwnia a Gwlad Pwyl.

Yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Arad Goch, mae cyfraniad Jeremy yn anfesuradwy,
“Dros y blynyddoedd mae Jeremy wedi cyfrannu’n aruthrol, nid yn unig i faes theatr mewn addysg a theatr i blant a phobl ifanc, ond hefyd yn ehangach i wead diwylliant celfyddydol Cymru. Un o brif gryfderau Jeremy dros y blynyddoedd yw’r gallu i esblygu, i ailddyfeisio, i gydweithio ac i fod mor barod i weithredu syniadau newydd – ac mae hon yn ffactor gref yn hir hoedledd y cwmni.

“Wrth ddiolch o galon iddo mae yma gyfle unigryw a chyffrous i gyfarwyddwr artistig newydd gydio yn yr awennau a chael cyfle i adeiladu ar y llwyfan cadarn sydd wedi ei osod, ac edrychwn ymlaen at y bennod arloesol nesaf i Arad Goch.”

Mae’r gair olaf yn perthyn i Jeremy,

“Mae’r profiadau gwych rydw i wedi’u cael drwy arwain Cwmni Theatr Arad Goch yn rhy niferus i’w rhestru, ac rwy’n falch iawn, iawn o’r gwaith rydyn ni wedi’i gyflawni ar draws Cymru, a’r ffordd mae cwmni fel Arad Goch wedi gallu bod yn gennad i’r genedl mewn cynifer o wledydd. Mae rhoi theatr o Gymru ar fap ryngwladol a gwahodd cwmnïau theatr rhyngwladol i Gymru, i gydweithio â ni yng ngŵyl AGOR DRYSAU er enghraifft yn elfen bwysig o’n gwaith.

“Nawr mae’n amser i mi wneud pethau eraill ac i rywun arall gael y fraint o arwain y cwmni yn greadigol.”

Rydym yn gwahodd ceisiadau tan 12.00 ar y 19eg o Chwefror, a gofynnir i chi ddanfon eich CV cyfredol ynghyd a llenwi’r ffurflen gais.

Darllenwch yr hysbyseb swydd yma: Hysbyseb Swydd Cyfarwyddwr Artistig

Lawrlwythwch y ffurflen gais yma: Ffurflen Gais Cyfarwyddwr Artistig

X