Perfformiadau cyhoeddus o un o gynyrchiadau clasur Arad Goch!
Mae Ble Mae’r Dail yn Hedfan – un o gynyrchiadau mwyaf adnabyddus Arad Goch – yn teithio i ysgolion cynradd unwaith eto. Ond eleni hefyd, bydd ‘na gyfleoedd i weld y ddrama mewn theatrau a neuaddau ym mis Chwefror a Mawrth.
Cynhyrchiad i blant 3-9 oed yw Ble Mae’r Dail yn Hedfan, a chafodd ei gynhyrchu yn wreiddiol yn 2012. Dros y ddeg mlynedd a mwy diwethaf, mae “Dail” wedi cael ei berfformio ym mhob cornel y byd, gan gynnwys Sbaen, Rwsia, De Corea a Ffrainc.
Nawr, dyma cyfle i’r cyhoedd gweld Ble Mae’r Dail yn Hedfan ar ei newydd wedd, yn y Gymraeg neu’r Saesneg, gydag elfennau o BSL yn y ddau.
Y daith gyhoeddus:
Tŷ Tawe, Abertawe
Dydd Sadwrn 18/2/23 11:00 (Cymraeg)
Hopkinstown Hall, Pontypridd
Dydd Mawrth 21/2/23 14:00 (Cymraeg)
Theatr Sherman, Caerdydd
Dydd Mercher 22/2/23 13:30 (Cymraeg) & 16:00 (Saesneg)
Dydd Iau 23/2/23 11:00 (Cymraeg) & 13:30 (Saesneg)
Yr Egin, Caerfyrddin
Dydd Gwener 24/2/23 11:00 (Cymraeg) & 14:00 (Cymraeg)
Canolfan Arad Goch, Aberystwyth
Dydd Sadwrn 25/2/23 10:30 (Cymraeg) & 13:30 (Saesneg)
Theatr Derek Williams, Y Bala
Dydd Mawrth 21/3/23 10:00 (Cymraeg) & 13:30 (Cymraeg)
