Ble Mae'r Dail Yn Hedfan

Cynhyrchiad newydd o un o glasuron Arad Goch! Mae BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN yn ddrama ryngweithiol i blant bach 3-9 oed a’u teuluoedd (gall plant iau ddod gyda’r teuluoedd hefyd) sydd yn cynnwys rhai elfennau o Iaith Arwyddion Prydain (BSL). 

Gan ddechrau y tu allan, neu yng nghyntedd y theatr/neuadd, mae’r gynulleidfa yn symud i ofod caeëdig, tawel a diogel ble maen nhw’n helpu’r cymeriadau i greu cartref newydd gyda deunyddiau naturiol – dail, brigau a pren. 

Mae’n ddrama hwyliog a cherddorol, weithiau’n ddoniol a dro arall yn ymdrin ag emosiynau plant, gyda themâu am gyfeillgarwch, cydweithio a gofal – gan annog y plant i fynd ati i fod yn greadigol yn eu ffordd eu hunain. 

Bydd Ble Mae’r Dail yn Hedfan yn teithio i ysgolion cynradd rhwng Ionawr a Mawrth 2023 yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond mi fydd perfformiadau cyhoeddus mewn canolfanau a theatrau hefyd! Gwelwch y perfformiadau cyhoeddus isod, i gael tocynnau cysylltwch a’r theatrau yn uniongyrchol, neu am fwyu o wybodaeth ffoniwch Arad Goch ar 01970617998.

PERFFORMIADAU CYHOEDDUS

I archebu tocynnau ar gyfer y perfformiadau isod, cysylltwch â’r theatrau yn uniongyrchol. Ebostiwch post@aradgoch.org ar gyfer tocynnau perfformiadau Canolfan Arad Goch

Tŷ Tawe, Abertawe

Dydd Sadwrn 18/2/23 11:00 (Cymraeg)

 

Hopkinstown Hall, Pontypridd

Dydd Mawrth 21/2/23 14:00 (Cymraeg)

 

Theatr Sherman, Caerdydd

Dydd Mercher 22/2/23 13:30 (Cymraeg) & 16:00 (Saesneg)

Dydd Iau 23/2/23 11:00 (Cymraeg) & 13:30 (Saesneg)

 

Yr Egin, Caerfyrddin

Dydd Gwener 24/2/23 11:00 (Cymraeg) & 14:00 (Cymraeg)

 

Canolfan Arad Goch, Aberystwyth (post@aradgoch.org)

Dydd Sadwrn 25/2/23 10:30 (Cymraeg) & 13:30 (Saesneg)

 

Theatr Derek Williams, Y Bala

Dydd Mawrth 21/3/23 10:00 (Cymraeg) & 13:30 (Cymraeg)

Oed

3-9 oed

Ar Daith

Ionawr – Ebrill 2023

Cyfarwyddwyr

Ffion Wyn Bowen