Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn adnabyddus am ei ddramâu i blant, ac mae cynyrchiadau Rala Rwdins wedi bod yn rhan bwysig o waith y cwmni ers y cychwyn! Mae Rala Rwdins a’u ffrindiau wedi llwyddo i drosglwyddo o’r llyfr i’r llwyfan ac i’r sgrin fach, ac mae cenedlaethau o blant wedi eu magu yng nghwmni’r cymeriadau.
Dewch i gwrdd â Rala Rwdins, Rwdlan, Dewin Doeth, Dewin Dwl, Llipryn Llwyd, Strempan a heb anghofio Mursen y gath, ac ymuno yn yr helynt wrth iddynt fynd ar eu gwyliau.
Ac fel arfer yng nghwmni’r criw mae yna gastiau a thriciau gyda digon o ganu a chwerthin!