Nid Fi

Oed: 7+
Cyfarwyddwr: Carwyn Blayney

Mae Nid Fi yn gynhyrchiad cyfarwydd i Arad Goch gyda nifer o berfformiadau eiconig wedi eu perfformio ers y 90au. Cafodd y perfformiad diweddaraf ei wneud yn 2017, ond fe fydd y ddrama hon yn cael ei pherfformio’n wahanol tro hyn.

Drama am fwlian yw Nid Fi ac fe gafodd ei hysgrifennu gan Mari Rhian Owen. Yn arferol byddai’r ddrama yn cael ei theithio o amgylch ysgolion dros Gymru ond y gwahaniaeth mawr gyda llwyfaniad 2021 yw na fydd cynulleidfa. Wel – dim yn y theatr beth bynnag! Fe fydd y fersiwn hon yn lle, yn cael ei ffilmio yng Nghanolfan Arad Goch ac yn cael ei ffrydio mewn i ysgolion.

Mae’r cast a thîm creadigol yn cynnwys gwynebau cyfarwydd o waith Arad Goch yn y gorffennol. Mae’r cast yn cynnwys Elin Gruffydd, Aaron William-Davies a Cadi Beaufort. Hefyd yn gweithio ar y cynhyrchiad bydd y cyfarwyddwr Carwyn Blayney ac fe fydd yn cael ei gynllunio gan Erin Maddocks.

Fe fydd y cynhyrchiad yn cael ei ffrydio ar blatfform aml-gyfrwng AM. Gweithio gyda’n gilydd rydym wedi datblygu ein tudalen i fod gallu dangos y gwaith i ddisgyblion dros y sir.

Os ydych am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar post@aradgoch.org

Oed

7+

Cyfarwyddwr

Carwyn Blayney

Aaron William-Davies

Actor

Cadi Beaufort

Actor

Elin Gruffydd

Actor

Carwyn Blayney

Cyfarwyddwr