9+
Ar Daith: Tymor yr Hydref
Cyfarwyddwyr: Jeremy Turner, Mari Rhian Owen
Tu Fewn - Tu Fas
Tu Fewn - Tu Fas
Fe fydd Cwmni Theatr Arad Goch yn teithio ysgolion cynradd Powys i berfformio yn ystod yr hydref os fydd sefyllfa COVID-19 yn caniatáu. Mae’r cynllun wedi ei ariannu gan Cymru Iachach drwy cais gan Heddlu Dyfed Powys ar y cyd gyda ni.
Stori am 3 ffrind yw TU FEWN-TU FAS – am sut mae nhw yn trin ei gilydd, am gyfeillgarwch, am berthnasau. Mae’r ddrama wedi’i seilio ar ein gwaith ymchwil ymarferol a chreadigol gyda disgyblion ysgol yn Sir Gâr a Cheredigion am yr hyn sydd ar feddyliau pobl ifanc – y pethau sy’n eu cyffroi a’r hyn sy’n eu poeni. Mae’r ddrama hefyd yn delio gydag elfennau o brofiadau niweidiol mewn plentyndod (ACE). Geiriau’r disgyblion sydd y sgript, ynghyd â dawns gyfoes, ‘ballroom’ a cherddoriaeth gyfoes Gymraeg.
Wrth gynnal gweithdai a thrafod gyda phlant rhai ysgolion cynradd, cawsom gip ar fyd a bywyd ein cynulleidfa – a’r hyn sy’n eu poeni a’u cyffroi. Yr ymatebion hyn sydd wedi bwydo ein syniad gwreiddiol – sef edrych ar effaith profiadau niweidiol sy’n digwydd i lawer yn ystod plentyndod.
Cadwch lygaid ar y wefan ar gyfer mwy o wybodaeth sydd i ddod!
Oed
9+
Ar Daith
Tymor y Gwanwyn
Cyfarwyddwyr
Jeremy Turner, Mari Rhian Owen