Rhwng 2021-24, mae Cwmni Theatr Arad Goch yn gweithredu i ddatblygu prosiect o’r enw ‘6×1’ gyda’r bwriad o ddatblygu gwaith gyda pherfformwyr llaw-rydd i ddatblygu a chreu perfformiad un-person newydd. Mae gan y cwmni ddiddordeb mawr mewn galluogi artistiaid i ddatblygu gwaith newydd gan ddefnyddio profiad ac adnoddau gwych y cwmni yn ein canolfan yn Aberystwyth.

Gyda’r awydd i weithio gydag ystod eang o artistiaid, Gall y gwaith gael ei greu gan berfformwyr o unrhyw faes theatraidd – drama, dawns, cerddoriaeth, celf ‘fyw’, cyfuniad o ffilm a pherfformio byw, pypedau, clownio, technoleg gyfoes neu unrhyw gyfuniad ohonynt, neu o unrhyw faes arall.

Yn dechrau’r wythnos hon, mae dau artist talentog iawn wedi dechrau datblygu eu gwaith yng Nghanolfan Arad Goch gyda’r bwriad o berfformio gwaith newydd.

 

Eluned Owen

Yn wreiddiol o Aberystwyth, daeth Eluned atom gyda’r bwriad o ddatblygu gwaith am drais yn erbyn marched. Yn ddawnswraig dalentog, datblygwyd y syniad gyda’r awydd i greu gwaith gwreiddiol a defnyddio profiadau personol i greu perfformiad a fydd yn dangos effaith alcohol ar berthynas.

Yn gyn-aelod o’n clwb drama blAGur ac wedi astudio TGAU yn Arad Goch, aeth ymlaen i astudio dawns ym Mhrifysgol Warwick lle gyfunodd ei phrofiad o ddysgu dawnsio ballet a chlasurol gyda’i hastudiaeth o ddawns gyfoes. Daw’r cyfuniad yma yn steil unigryw iddi hi ac fe ddaw hyn i’r amlwg wrth iddi ddatblygu ei pherfformiad newydd.

Tommy Booth

Gyda phrofiad o ddawnsio stryd a hip-hop ers 16 mlynedd, mae Tommy Booth wedi dod yn enw adnabyddus wedi iddo ddatblygu ei sgiliau i gyrraedd y brig mewn cystadlaethau rhyngwladol. Ar ôl iddo berfformio ar lwyfan gyda N-Dubz, Black Eyed Peas a theithio’n rhyngwladol ar weithiau eraill, daeth Tommy i Arad Goch gyda’r awydd i ddatblygu gwaith ei hun.

Yn awyddus i gadw at steil o ddawnsio stryd gydag elfennau o theatr gorfforol, mae’r syniad am ddangos y ffordd mae pobl ifanc yn cael eu cyflyru i gydymffurfio â delwedd ‘berffaith’. Gan ddefnyddio elfennau technegol newydd i Arad Goch, fe fydd y gwaith yn un cyffrous ac  edrychwn ymlaen at weld y gwaith gorffenedig.

X