Taith Cerdyn Post o Wlad y Rwla – Haf 2024
Mae’n bleser cyhoeddi fod Rala Rwdins a’i ffrindiau yn dychwelyd i lwyfannau ledled Cymru ar gyfer tymor yr haf 2024! Fe fydd Cerdyn Post o Wlad y Rwla gan Angharad Tomos ar gael i’w wylio yn 16 o theatrau Cymru rhwng Mai a Gorffennaf 2024. Mae copi o’r daith lawn ar waelod y dudalen.
Pob haf, mae Cwmni Theatr Arad Goch yn gwneud taith enfawr i theatrau Cymru gyda cynhyrchiad i blant oed ysgol cynradd a theuluoedd. Eleni, Jemima – cynhyrchiad newydd sbon i blant 7+ deithiodd y wlad, ond blwyddyn nesaf fe fydd y cwmni yn dychwelyd at un o glasuron Arad Goch ar gyfer plant 3+.
Mae cynyrchiadau Rala Rwdins wedi bod yn rhan bwysig o waith y cwmni ers y cychwyn! Mae Rala Rwdins a’i ffrindiau wedi llwyddo i drosglwyddo o’r llyfr i’r llwyfan ac i’r sgrin fach, ac mae cenedlaethau o blant wedi eu magu yng nghwmni’r cymeriadau. Yn 2024 fe fydd cenhedlaeth newydd o blant yn cael cyfle i weld y cymeriadau eiconig Cymraeg nôl ar lwyfannau Cymru – cyfle perffaith ar gyfer trip ysgol i’r theatr, neu gyda’r teulu!
Cerdyn Post o Wlad y Rwla (Addas ar gyfer oed 3+)
Dewch i gwrdd â Rala Rwdins, Rwdlan, Dewin Doeth, Dewin Dwl, Llipryn Llwyd, Strempan a heb anghofio Mursen y gath, ac ymuno yn yr helynt wrth iddynt fynd ar eu gwyliau. Ac fel arfer yng nghwmni’r criw mae yna gastiau a thriciau gyda digon o ganu a chwerthin!
I archebu tocynnau, cysylltwch â’r theatrau yn uniongyrchol, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Arad Goch ar 01970617998 / post@aradgoch.org.
Theatr Felinfach
21/5/24 10:00, 13:00
MEMO, Bari
23/5/24 10:00
Theatr Borough, Y Fenni
24/5/24 10:00
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
4/6/24 10:00, 13:00
Theatr Mwldan, Aberteifi
6/6/24 10:00
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
7/6/24 10:00
Pafiliwn Rhyl
11/6/24 10:00
Theatr Stiwt, Rhosllannerchrugog
13/6/24 10:00, 13:00
Pontio, Bangor
17/6/24 13:00
18/6/24 10:00, 13:00
19/6/24 10:00
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
20/6/24 10:00, 13:00
Ffwrnes, Llanelli
25/6/24 10:00
Glan yr Afon, Casnewydd
26/6/24 13:00
Y Lyric, Caerfyrddin
27/6/24 17:30
28/6/24 10:00
Coliseum, Aberdâr
2/7/24 10:00
Canolfan Taliesin, Abertawe
3/7/24 10:00
Theatr Sherman, Caerdydd
5/7/24 10:30
6/7/24 13:30