Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo / Swyddog Marchnata
(32 – 40 awr y wythnos)
(dyddiad cau 25/11/22)
Graddfa Cyflog: £21,460 – £30,023 pro rata, yn dibynnu ar brofiad.
Mae Cwmni Theatr Arad Goch am benodi person brwdfrydig i reoli gwaith marchnata a hyrwyddo y cwmni neu i fod yn swyddog marchnata (yn ddibynnol ar brofiad). Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Bydd yr ymgesiydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo a marchnata cynyrchiadau’r cwmni a gweithgareddau yng Nghanolfan Arad Goch.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol:
- profiad o hyrwyddo digwyddiadau
- sgiliau cyfryngau cymdeithasol
- sgiliau cyfathrebu da
Os am fanylion pellach – cysylltwch a nia@aradgoch.org
Dyddiad cychwyn: mor fuan a phosib.
Cyflog: £21,460 – £30,023 (pro rata) yn dibynnu ar brofiad
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau ar ffurf llythyr a CV gydag enwau dau ganolwr at nia@aradgoch.org erbyn 5pm ar 25/11/22.
Elusen Cofrestredig: 702506
Anela Arad Goch at fod yn gyflogwr cyfle cyfartal.