Ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm Cwmni Theatr Arad Goch?

Rydyn ni’n chwilio am rhywun i fod yn Swyddog Codi Nawdd ar gyfer prosiectau penodol.

Mae’r manylion swydd wedi’i atodi isod. I geisio, anfonnwch eich cais a CV i nia@aradgoch.org erbyn y 14eg o Fawrth.

 

 

Teitl y Swydd:  Swyddog Codi Nawdd ar gyfer prosiectau penodol

Graddfa Cyflog: £20,000 – £25,000 pro rata

Oriau Gwaith: 16 awr yr wythnos am gyfnod o 12 mis. Gall yr oriau hyn fod yn hyblyg.

Yn Atebol i: Y Cyfarwyddwr Artistig

Pwrpas y Swydd.

Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn denu incwm ar ffurf nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, grantiau gan awdurdodau addysg, ffioedd am berfformiadau ac incwm drwy osod Canolfan Arad Goch.

Mae’r swydd hon yn ymwneud ag ymgyrch cyffredinol y cwmni i ddenu nawdd ychwanegol ac ar gyfer dau brosiect penodol sef:

– prosiect “crowd funding” – er mwyn galluogi’r cwmni i brynu fan newydd;

– denu nawdd tuag at Agor Drysau – Gwyl Celfyddydau Perfformio Rhyngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc (www.agordrysau.cymru).

Gwneir hyn drwy dargedu:

  • mentrau codi arian cymunedol,
  • unigolion,
  • busnesau,
  • ymddiriedolaethau,
  • y sector cyhoeddus gan gynnwys cronfeydd a chynlluniau’r Llywodraeth (ag eithrio Cyngor Celfyddydau Cymru a’r awdurdodau lleol),
  • cronfeydd a chynlluniau rhyngwladol,
  • elusennau

Bydd y gwaith wedi’i seilio ar ddogfennau paratoadol a wnaed  eisoes ar gyfer y cwmni gan ymgynghorydd allanol.

Prif Ddyletswyddau.

Fe fydd deilydd y swydd yn:

  • trafod, gyda’r Cyfarwyddwr Artistig, y ddau brosiect penodol a nodir uchod o fewn cyd-destun rhaglen waith a cynllun busnes y cwmni am y blynyddoedd nesaf;
  • ymchwilio ffynonellau nawdd ac ariannu amgen;
  • sefydlu perthnasau proffesiynol gyda darpar noddwyr i ennill cefnogaeth hir dymor gan gynnwys cyrff cyhoeddus, y sector busnes, grwpiau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol;
  • cynorthwyo yn y broses o gyflwyno apeliadau penodol i gefnogwyr a noddwyr.

 

Swydd 12 mis fydd hon i gychwyn yn amodol ar barhad nawdd i’r cwmni gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Adolygir y swydd ar ddiwedd y cyfnod hyn. Nid oes yn rhaid i’r unigolyn sy’n gwneud y swydd hon fod yn gweithio o’r Ganolfan yn Aberystwyth.

_____________________________________________________________________

Danfonwch eich cais a CV i:

Nia Wyn Evans, Rheolwr Gweinyddol, Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth SY23 2NN. 

– Ffôn :01970 617998

– e-bost: nia.wyn@aradgoch.org

Dyddiad cau: 14eg o Fawrth 2022

X