Mae ‘CYMRIX’ ar daith gyhoeddus gyda chefnogaeth ARFOR!
Ar y cyd gyda Arfor Llwyddo’n Lleol, mae Arad Goch wedi trefnu sioeau cymunedol i’r teulu cyfan ar draws siroedd ARFOR.
Mae Cymrix yn gynhyrchiad sydd wedi ei anelu at blant 9+ ond mae hefyd yn addas iawn ar gyfer deuluoedd a siaradwyr Cymraeg Newydd o bob oedran. Mae’n archwilio hunaniaeth Cymraeg a’r iaith Gymraeg trwy lens tri person ifanc o brofiadau a chefndiroedd gwahanol.
Dewch draw i un o’ch sioeau lleol chi am sioe a gweithdy egnïol sy’n rhoi cyfle i’r plant ymfalchio yn ei hardal leol!
Mae’r tocynnau yn RHAD AC AM DDIM, ond mae angen archebu eich lle cyn gynted â phosib drwy gofrestru ar wefannau y lleoliadau.