Y Cwmni, ei Weledigaeth a'i Waith

Sefydlwyd Cwmni Theatr Arad Goch yn 1989.

Rydym yn gweithio i greu’r theatr orau ar gyfer y cynulleidfaoedd gorau – plant, pobl ifanc a theuluoedd.

Rydym eisiau i’n cynulleidfaoedd glywed eu straeon, dychmygu eu breuddwydion, profi eu byd, rhyfeddu, meddwl, a chwerthin – trwy theatr.

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn gwmni lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Rydym yn creu theatr arloesol o ansawdd uchel ar gyfer plant a phobl ifanc a gyda nhw.

Rydym yn darparu cyfleoedd i artistiaid theatr gydweithio, ymchwilio a chreu gwaith cyffrous newydd.

Mae ein gwaith yn dathlu hunaniaeth Gymreig fel rhan o ddiwylliant cyfoes y byd.

Y Gymraeg yw prif iaith waith y cwmni; rydym yn gweithredu’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg gan hyrwyddo ethos iaith amlieithog a chynhwysol.

Mae’r cwmni yn cynhyrchu hyd at 5 cynhyrchiad mewn blwyddyn – rhai i ysgolion, ac eraill yn gynyrchiadau cyhoeddus sy’n teithio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i theatrau a lleoliadau eraill. Yn ogystal, ar adegau penodol, mae’r cwmni yn cynhyrchu digwyddiadau a phrosiectau ar raddfa fawr megis Gŵyl Hen Linell Bell, a chynyrchiadau fel Clera a’r sioe gerdd Cysgu’n Brysur.

Rydyn ni’n cydnabod y pwysigrwydd a’r budd a geir o gydweithio gydag asiantaethau a mudiadau eraill yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r cwmni yn flaengar wrth ddatblygu nifer o gynlluniau rhyngwladol drwy sefydlu cysylltiadau â chwmnïau, gwyliau a pherfformwyr o dramor a thrwy gynnal
Agor Drysau – Opening Doors Gŵyl Theatr Ryngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc. https://agordrysau.cymru/.

Drwy ei berfformiadau a’i weithgareddau cyfranogol mae Cwmni Theatr Arad Goch yn cyrraedd dros 24,000 o blant a phobl ifanc yn flynyddol. Yn ogystal, mae Canolfan Arad Goch yn cael ei hadnabod fel canolfan gymunedol greadigol, ac mae’n bosib llogi’r adeilad ar gyfer unrhyw ddigwyddiad.