6X1

Oes ‘da chi syniad hoffech ddatblygu ymhellach? Mae 6X1 yn gynllun sy’n gwahodd perfformwyr llaw-rydd i ddatblygu syniadau ar gyfer cynyrchiadau un-person newydd, mewn unrhyw gyfrwng, i blant, teuluoedd neu bobl ifanc. Os yw eich syniad chi yn ateb y gofynion isod, rydyn ni eisiau clywed gennych! Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â jeremy@aradgoch.org.

Rhaid i’r gwaith:

fod yn newydd
gael ei berfformio yn y Gymraeg neu heb eiriau
fod i blant, pobl ifanc neu deuluoedd