Gwirfoddoli

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn aml yn cynhyrchu digwyddiadau uchelgeisiol ar raddfa fawr, ac mae’r prosiectau yma yn cynnig nifer o gyfleoedd i wirfoddolwyr. O rolau creadigol i waith technegol a stiwardio – gall unrhyw un fod yn rhan o’r bwrlwm! Mi fyddwn ni’n hysbysebu’r cyfleoedd yma yn ystod y broses gynnar o gynhyrchu’r digwyddiad.

Yn y cyfamser, mae ‘na nifer o ffyrdd eraill gallwch chi wirfoddoli yng Nghanolfan Arad Goch.

– Staffio derbynfa Canolfan Arad Goch

– Cynorthwyo gyda chlwb drama

– Blaen Tŷ a stiwardio

A llawer mwy – am fwy o wybodaeth neu am sgwrs, cysylltwch â post@aradgoch.org .