Staff

Ffion Wyn Bowen
Nôl ym 1996 nes i ddechrau gweithio gydag Arad Goch fel actores, ac ers hynny dwi wedi ymwneud â nifer o gynyrchiadau a phrosiectau, ac wedi teithio yn helaeth yn perfformio gyda’r cwmni. Ymysg fy nyletswyddau fydd cyfarwyddo rhai o’r cynyrchiadau, datblygu gweithgareddau cyfranogol cymunedol a chreadigol y cwmni ac arwain y clybiau Drama – BlAGur ac AGwedd.

Anne Evans
Mae fy ngwaith i’n cynnwys llawer o gysylltu a thrafod gydag ysgolion. Fi sydd yn trefni holl deithiau theatr mewn addysg y cwmni, yn ogystal â chysylltu ag ysgolion am ddigwyddiadau nesaf Arad Goch, prosiectau dysgu creadigol, a theithiau theatr.

Lowri Page
Ymunais fel Marchnatwr yn Arad Goch yn 2023. Cefais fy magu yn Nyffryn Tanat, cyn symud i Aberystwyth i astudio Ffilm a Theledu yn y Brifysgol.
Fi sy'n gyfrifol am farchnata a hyrwyddo'r cwmni. Dwi'n caru bod yn greadigol ac yn cael hwyl yn datblygu fy sgiliau wrth farchnata digwyddiadau yn Arad Goch!

Nia Wyn Evans
Rydw i wedi bod yn gweithio yn Arad Goch ers 2003, ac rydw i’n gyfrifol am y cyllidebau, cytundebau, a’r holl bethau difyr hynny! Rydw i’n wreiddiol o Lanbrynmair, ond penderfynais aros o gwmpas Aberystwyth ar ôl graddio mewn Cyfraith a Busnes. Rydw i’n byw ar fferm yn Nhalybont gyda fy ngŵr, Deulwyn, a’n tri o blant, Mirain, Lleucu a Wil.

Rakaia McAdam-Duff
Fi yw'r Prentis Technegol newydd Arad Goch. Mae gennyf ddiddordeb mewn dylunio, goleuo a rheoli llwyfan. Rydw i'n edrych ymlaen i ddysgu mwy trwy y profiadau byddai'n cael yn Arad Goch.

Ann Penny
Rydw i yn gweithio fel Clerc gyda Arad Goch ers 1991, a fi sydd yn gyfrifol am gadw’r cyfrifon ar raglen Sage. Yn ogystal â hyn, dwi’n gwneud dyletswyddau gweinyddol amrywiol.