Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn cadw llygad barcud am berfformwyr, technegwyr ac artistiaid llaw-rydd trwy’r amser. Rydyn ni’n hapus i dderbyn Datganiadau Personol ar unrhyw adeg, a chadwch lygad ar y dudalen yma am wybodaeth am unrhyw swyddi newydd, galw am berfformwyr / clyweliadau neu gyfleoedd arall gyda Cwmni Theatr Arad Goch.
Swyddi:
Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo – 32-40 awr y wythnos (i’w drafod)
Dyddiad cau 7/12/20
Mae Cwmni Theatr Arad Goch am benodi person brwdfrydig i reoli gwaith marchnata a hyrwyddo y cwmni. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ac yn Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo a marchnata cynyrchiadau’r cwmni a gweithgareddau yng Nghanolfan Arad Goch.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol (Ond nid yn hanfodol):
– Profiad o hyrwyddo digwyddiadau
– Sgiliau cyfryngau cymdeithasol
– Sgiliau cyfathrebu da
Cytundeb parhaol (yn amodol ar gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru o fis Ebrill ymlaen).
Os am fanylion pellach – ebostiwch: nia@aradgoch.org
Dyddiad cychwyn: Ionawr 2021
Cyflog: £21,460 – £30,023 pro rata, yn dibynnu ar brofiad.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau ar ffurf llythyr a CV gydag enwau dau ganolwr at nia@aradgoch.org erbyn 5pm ar 7fed o Ragfyr 2020.
Aelodau Newydd ar Fwrdd Rheoli Arad Goch
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’r Bwrdd Rheoli
Mae gan Gwmni Theatr Arad Goch 30 mlynedd o brofiad o greu theatr i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Er mwyn ehangu gwybodaeth, gweledigaeth a sgiliau y Bwrdd ac i gefnogi ein tîm o staff rydym am benodi ymddiriedolwyr newydd o bob cefndir gan gynnwys cynrychiolaeth DALlE (BAME) a phobl a chanddynt anghenion ac ableddau penodol.
Mae croeso i chi gysylltu am fwy o wybodaeth neu i drefnu sgwrs anffurfiol.
Os oes gennych ddiddordeb, gofynnir i chi anfon ebost at ein Rheolwr Gweinyddol, Nia Wyn Evans, nia@aradgoch.org, erbyn y 14eg o Ragfyr, gan ddweud wrthym pam yr hoffech ymuno â’n Bwrdd a sut y gallwch ein helpu ni i wireddu ein gweledigaeth.