Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’r Bwrdd Rheoli

Y cwmniwww.aradgoch.cymru

Rydym eisiau i’n cynulleidfaoedd glywed eu straeon, dychmygu eu breuddwydion, profi eu byd, rhyfeddu, meddwl, a chwerthin – trwy theatr.

Mae gan Gwmni Theatr Arad Goch 30 mlynedd o brofiad o greu a chyflwyno theatr  i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Rydym yn:

  • creu theatr arloesol o ansawdd uchel ar gyfer plant a phobl ifanc a gyda nhw;
  • gweithredu yn lleol, yn genedlaethol ac ynryngwladol;
  • darparu cyfleoedd i artistiaid theatr gydweithio, ymchwilio a chreu gwaith cyffrous newydd;
  • dathlu hunaniaeth Gymreig fel rhan o ddiwylliant cyfoesbyd-eang.

Mae gan ein Cynllun Busnes 2020-25 bedair gweithred arweiniol; un ohonynt yw  DEWCH I NI WEITHIO GYDA’N GILYDD sydd yn nodi Er mwyn ehangu sylfaen wybodaeth a sgiliau’r cwmni ac er mwyn sicrhau cynrychiolaeth a chyfleoedd ehangach yn ein gwaith, yn enwedig yn yr iaith Gymraeg, byddwn yn chwilio am ffyrdd o weithio gyda phobl greadigol o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru.

Ein Bwrdd Rheoli

Mae gan y cwmni Fwrdd Rheoli cryf o ymddiriedolwyr. Er mwyn ehangu gwybodaeth, gweledigaeth  a sgiliau y bwrdd, ac i gefnogi’r staff,  rydym yn arbennig o awyddus i  benodi ymddiriedolwyr newydd o garfannau nas cynrychiolir ar hyn o bryd, gan gynnwys cynrychiolaeth DALlE,  a phobl a chanddynt anghenion arbennig.

Mae’r Bwrdd o Ymddiriedolwyr, dan arweiniad y Cadeirydd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, yn sicrhau llywodraethiant effeithlon er mwyn i’r cwmni gael ei reoli a’i weithredu yn gywir. Byddai bod yn Ymddiriedolwr yn eich galluogi i ddefnyddio’ch profiad i gefnogi ein gwaith a’r celfyddydau yng Nghymru yn fwy eang. Byddai hefyd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd yn broffesiynol ac yn bersonol. Gallwch ddysgu mwy am yr hyn y mae bod yn Ymddiriedolwr yn ei olygu trwy fynd i wefan y Comisiwn Elusennau: www.gov.uk.

Mae’r Bwrdd yn cynnal pedwar cyfarfod y flwyddyn yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth neu, yn fwy diweddar, yn rhithiol dros Zoom; mae cyfarfodydd achlysurol o is-bwyllgorau. Mae pob swydd ymddiriedolwr yn wirfoddol ac yn ddi-dâl, ond caiff unrhyw gostau angenrheidiol, megis costau teithio, eu had-dalu.

Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwyr fydd yn rhannu ein gweledigaeth, yn ein cynorthwyo i herio ein rhagdybiaethau, yn cynrychioli ein cynulleidfaoedd a’n hartistiaid, ac yn cefnogi ein tîm o staff. Er mwyn ehangu gwybodaeth, gweledigaeth  a sgiliau y Bwrdd ac i gefnogi ein tîm o staff rydym am benodi ymddiriedolwyr newydd o bob cefndir gan gynnwys pobl o gefndiroedd a chymunedau  ethnig amrywiol, a phobl a chanddynt anghenion ac ableddau penodol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch beth mae bod yn ymddiriedolwr yn ei olygu, mae croeso i chi gysylltu â Nia Evans nia@aradgoch.org i drefnu sgwrs anffurfiol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn un o ymddiriedolwyr Cwmni Theatr Arad Goch, gofynnir i chi anfon ebost at ein Rheolwr Gweinyddol, Nia Wyn Evans, nia@aradgoch.org, gan ddweud wrthym pam yr hoffech ymuno â’n Bwrdd a sut y gallwch ein helpu ni i wireddu ein gweledigaeth.

Byddwn yn gwahodd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer i gyfarfod trwy gyfrwng Zoom. Rhagwelir y bydd yr ymddiriedolwyr newydd yn ymuno â’r Bwrdd cyn gynted ag y bo modd.

X