march, 2023

18mar(mar 18)10:00 am19(mar 19)4:00 pmCwrs Technegol Theatr i bobl ifanc 18-25 oed

more

Event Details

Mae’r cwrs am ddim ac yn agored i unrhyw un sy’n byw yng Ngheredigion rhwng 18 a 25 blwydd oed. Dyma gyfle arbennig i unrhyw un sydd â diddordeb ym maes technegol y theatr, yn bennaf GOLAU a SAIN.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch – ond os ydych yn gwybod tipyn bach yn barod mae ein hyfforddwyr profiadol yn medru rhannu eu sgiliau proffesiynol ynghyd ag awgrymu ffyrdd tuag at weithio yn y diwydiant.

Cynhelir y cwrs Yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth trwy’r Gymraeg, dros 2 ddiwrnod (isod). Fe allwn hefyd gyfrannu at gostau teithio a byddwn ni’n darparu lluniaeth ysgafn, felly does dim angen i chi ddod a phecyn bwyd!

18/3/23 & 19/3/23

10:00-16:00 ar y ddau diwrnod

I fynychu, neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar post@aradgoch.org / 01970617998.

Time

18 (Saturday) 10:00 am - 19 (Sunday) 4:00 pm

Location

Canolfan Arad Goch

Bath St, Aberystwyth, SY23 2NN

X