Archif

Mae archif bapur o 35 mlynedd o waith Cwmni Theatr Arad Goch newydd gael ei chyflwyno i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Ers iddo ymddeol yn 2024 fel Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, ers ei sefydlu yn 1989, mae Jeremy Turner wedi bod yn hel y deunydd: sgriptiau, cofnodion cyfarwyddo, ffotograffau, posteri, rhaglenni, teithiau tramor, adroddiadau, adnoddau addysgol, llythyrau gan blant a phobl ifainc, athrawon a rhieni – 24 blwch mawr ohonynt.

Bydd yr archif hon ar gael i ymchwilwyr ac academyddion ac hyd yn oed i actorion gael hel atgofion am eu gwaith; gobeithir ymhen amser y bydd modd cyflwyno archif fideo o waith y cwmni hefyd. Bwriedir y bydd hyn yn anogaeth i gwmnïau theatr eraill, sydd wedi mynd a dod yn ystod y 60 mlynedd gyffrous ddiwethaf, gyflwyno eu harchifon hwy i’n Llyfrgell Genedlaethol.

“Mae creu’r archif hon wedi bod yn bleser pur wrth gofio’r holl gynyrchiadau a gweld lluniau’r actorion ac artistiaid theatr rwy’i wedi cael y fraint o gydweithio gyda nhw. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy’ wedi cwblhau PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wrth wneud gwaith ymchwil ar gyfer y ddoethuriaeth, sylwais gyn lleied o hanes theatr i gynulleidfaoedd ifainc yng Nghymru, a’r theatr Gymraeg yn gyffredinol sydd wedi cael ei gadw at ddibenion ymchwil. Bydd yr archif hon ar gael i ymchwilwyr ac academyddion ac hyd yn oed i actorion gael hel atgofion am eu gwaith.

Y gobaith ymhen amser yw y bydd modd cyflwyno archif fideo o waith y cwmni hefyd, gan annog cwmnïau theatr eraill, sydd wedi mynd a dod yn ystod y 60 mlynedd gyffrous ddiwethaf, i gyflwyno eu harchifau hwythau i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Jeremy Turner
X