Digwyddiadau

Be sy’mlan yn Canolfan Arad Goch….
Ma’ rhywbeth i bawb yma!

06/11/26 – 7:00 yh
Dangosiad arbennig o ffilm : ESBEC 37, stori ysbrydoledig a phwerus am Undod.
Gan criw Cuba Solidarity Campaign-Cymru Cuba Ceredigion
Mae mynediad am ddim, gyda rhoddion ar gyfer Apêl Feddygol Cuba Vive.

07/11/26 – 10:00 – 14:00 yp
Digwyddiad – Ail Ystyried Y Pontio Gwyrdd yng Ngheredigion
Digwyddiad agored i’r teulu cyfan.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch gag.pwyllgor@outlook.com

CYHOEDDIAD!! DIGWYDDIAD DDIM I’W GOLLI!
Torri Tir yn cyflwyno….
🔎💍 Llofruddiaeth mewn Priodas! 💍🔎
Mae rhywbeth sinistr ar droed… a does dim priodas heb ychydig o ddrama! 👀
Ymunwch â grŵp Torri Tir Arad Goch am ddigwyddiad dirgelwch llofruddiaeth cyffrous, lle bydd cyfrinachau’n dod i’r amlwg, amheuon yn cynyddu a chwestiynau’n codi. 🕵️‍♀️
Pwy sy’n cuddio rhywbeth? Pwy allwch chi ymddiried ynddo? Ac yn bwysicaf oll… pwy yw’r llofrudd?
Dewch i brofi eich sgiliau ditectif a gweld a allwch chi ddatrys y dirgelwch?
Fyddwch chi ddim eisiau colli hwn! 🔍
Tocynnau £30
Yn cynnwys Bwffe a Diod Croeso
Ar gael o Arad Goch (o flaen llaw yn unig) post@aradgoch.org 01970 617998
R.S.V.P erbyn 6/11/2026 . Elw’r noson at Gylch Meithrin Aberystwyth.

X