Iaith Trwy Ddrama

Mae hwn yn ddull arbennig o ddefnyddio technegau drama i gefnogi datblygiad ieithyddol wedi’i ddyfeisio a’i ddatblygu gan Mari Rhian Owen.

Mae pob cynllun  yn cynnwys sesiynau ymarferol sy’n magu hyder a datblygu sgiliau llafar, wedi’u paratoi yn arbennig at oedran a safon ieithyddol y plant.

Gallwch drefnu derbyn Iaith Trwy Ddrama trwy gysylltu â mari@aradgoch.org neu  01970617998.