Whwsh… Bant â ni! Sioe gerdd hudolus newydd gan Mererid Hopwood, gyda cherddoriaeth gan Seiriol Davies.
Mae pawb yn gyffro i gyd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn Ysgol Gwaelod y Garn. Ond mae’r plant ar fin cael newyddion drwg… mae’r ysgol yn mynd i GAU!
Wrth i Alfred, Elen a’u ffrindiau geisio meddwl am ffordd o achub eu hysgol fach, mae athrawes newydd a braidd yn llym yr olwg yn cyrraedd: Miss Prydderch. Ond cyn hir, daw hi’n amlwg ei bod hi’n athrawes anghyffredin o arbennig. Os gall unrhyw un helpu’r plant i achub yr ysgol, Miss Prydderch yw’r un!
Mewn sioe sy’n llawn dop o ddireidi, dychymyg a cherddoriaeth, cewch deithio gyda dosbarth Miss Prydderch ar antur fythgofiadwy lle mae’r ffrindiau’n trechu eu hofnau a darganfod pwysigrwydd codi eu lleisiau.
Dyma sioe gerdd hudolus newydd sy’n dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript newydd sbon gan Mererid Hopwood, a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies.
Whwsh! Bant â ni!
Cynhyrchiad Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch.
Mae’r cynhyrchiad hwn wedi’i lwyfannu mewn partneriaeth â’r Egin, a oedd yn gyfrifol am yr ymchwil a’r datblygiad cychwynnol ar gyfer y cynhyrchiad gyda chymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

